MARGARET GRIFFITHS. GRANVILLE, NEW YORK.
Mai 15fed, 1894, yn nhy ei merch Mrs. Robert B. Boberts, Granville, New York, bu farw Mrs. Davies, gweddw y diweddar Mr. Pierce Davies, yn 85 mlwydd oed.Cawsai ergyd o'r parlys oddeutn blwyddyn yn flaenorol, effeithiau yr hyn a'i canlynodd hyd ei bedd.
Merch ydoedd Mrs. Davies i'r diweddar hybarch John Pritchard, Llanberis, Cymru. Ac yr oedd yn chwaer i'r diweddar Barchedigion Samuel Jones, Maentwrog, Richard Jones, Llanidloes, Cymru, a Griffith Jones, Columbus, Ohio, ac hefyd i'r diweddar Mr. Ioan Pritchard, Middle Granville, New York. Nid ydym yn gwybod a oedd brodyr eraill yn y teulu. Pa un bynag am hyny, Mrs. Davies oedd y ddiweddaf o deulu a fu am flynyddau lawer yn enwog yn ei gysylltiad a chrefydd Crist. Felly "un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw, canys y mae y byd hwn yn myned heibio," a'i holl breswylwyr fel eu gilydd yu meirw."
Ganwyd i Mr. a Mrs. Davies ddeuddeg o blant, pump o ba rai sydd yn fyw, sef Mrs. Robert R. Eoberts. Granville, Mrs. Hugh Williams, Middle Granville, New York, John R. Davies, Columbus, Ohio, Samuel P. Davies, Marinet, New, York, a Pierce P. Davies, Rutland, Vermont.
Mai 18fed, 1894, rhoddwyd ei gweddiìlion marwoì i orphwys yn ymyl ei phriod a rhai o'ì phlant yn mynwent Middle Granville, hyd ganiad udgorn y dydd diweddaf. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn, a thystiai y gynulleidfa luosog a ddaeth yn nghyd i'w hangladd fod iddi le dwfn yn serch y cyhoedd. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. J. W. Williams, Fairhaven, Thomas M. Owen, West Pawlet, Vermont, Williams, Granville (T. C), a J. Milton Thomas.
Drwg genym nad allwn roddi braslun o hanes boreuol y chwaer wir ragorol hon. Eithr ni chawsom fantais i wybod dim am dani hi a'i theulu, nes eu dyfod i'r wlad hon er ys bellach dros ddeugain mlynedd yn ol, a hyny yn y blynyddoedd cyntaf ar ol eu dyfodiad yma. Y mae cryn lawer o flynyddau bellach er pan y gwelsom hwynt, ac y cawsom y mwynhad o'u cymdeithas. Eto nid yw yr argraph o'u sirioldeb a'u caredigrwydd mawr, o gwbl wedi ei ddileu oddiar ein cof a'u calon.
Pan yn myned i Middle Granville flynyddau lawer yn ol, am dy Mr. a Mrs. Pierce Davies y byddem bob amser yn holi, ac yno y byddem yn wastad yn myned. Ac ni welsom un amser erioed un pall ar eu caredígrwydd, na diffyg ar gynhesrwydd eu derbyníad i ni.
Yr oedd Mrs. Davies yn rhagori ar wragedd yn gyffredin am ei synwyr cyffredin cryf, yn gystal ac am ei thalent i osod allan ei meddwl. Yr oedd yn wraig ddeallus yn athrawiaethau crefydd, ac yn egwyddorion ac arferion ei henwad, dros y rhai y dygai fawr sel bob amser. Yr oedd yn wraig ddiwyd a darbodus yn ei thy. Byddai pob peth yn lauwaith a threfnus ganddi bob amser. Cafodd ei phlant fagwraeth, ragorol ganddi, a sicr yw y gwelir yr effeithiau arnynt tra y byddant byw.
Yr oedd yn wraig siriol a charedig yn ei thy i ddyeithriaid. Lletyodd lawer o weinidogion ac eraill yn groesawgar a siriol, a byddai yn ddiflino yn ei gofal am eu cysur tra y byddent o dan ei chronglwyd. Yno yn benaf, tybiwn, y byddai gweinidogion cynulleidfaol yn cartrefu pan yr ymwelent a'r lle.
Y mae yn tynu ar ddeg mlynedd bellach, er pan bu farw ei phriod Mr. Pierce Davies, yr hwn oedd yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys Gynulleidfaol yn y lle, ac ar ol- hyny bu Mrs, Davies yn cartrefu gyda'i merched yn Granville a Middle Granville, y rhai a gawsant wneuthur eu goreu i w hanwyl fam yn ei henaint, ac a weiniasant arni yn dyner a charedig yn ei diwedd. Taled yr Arglwydd yn ddau ddyblig iddynt am eu caredigrwydd yma, a pharhaed i fod yn Dduw i'r plant, megis ac y bu i'w rhieni. Nac ymadawed crefydd byth o deulu siriol, caredig, croesawgar, a gwir grefyddol Mr a Mrs. Pierce Davies.