MRS. MARY HUGHES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Hydref 9fed, 1894, Mrs. Mary Hughes, anwyl briod y diweddar John J. Hughes, Middle Granville, New York, sef brawd i'r diweddar Barch. Edward J. Hughes, West Bangor, Pennsylvania.Yr oedd yr hen chwaer wedi cyraedd yr oedran addfed o 75. Symudasant i'r wlad hon tua 13 mlynedd yn ol o Gorris, Meirion.
Bu John Hughes farw yn Granville tua chwe blynedd yn ôl, yn 69 oed.
Yr oedd v ddau yn aelodau parchus gyda'r T. C. hyd derfyn eu dyddiau, a chlywais y Parch. Edward Roberts yn datgan ei golled ar ôl yr hen frawd John Hughes fel gwrandawr astud, gyda'i Amen cynes a'i ddagrau ar ei ruddiau yn aml yn y bregeth. Treuliodd yr hen chwaer Mary Hughes ei blynyddau olaf gyda'i merch a'i mab yn nghyfraith, Robert R. Parry, yn Middle Granville, a chafodd bob gofal ganddynt hyd derfyn ei dyddiau.
Aeth y ddau adref i orphwys oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd yn eu canlyn hwynt. Maent yn gorwedd ochr yn ochr yn mynwent Middle Granville, hyd ganiad yr udgorn.
Mae eu merch Kate a'i phriod yma, eu mab Edward Hughes yn Slatington, Pennsylvania, a merch arall yn Liverpool.