MR. WILLIAM W. HUGHES, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Farmer, Section 21; P.O. Cambria; born March 21, 1828, in Caernarvonshire North Wales; son of William and Margaret (Owens) Hughes; came to America in 1846.

Married in New York City, by Rev. E. Roberts, Nov. 19th, 1859, to Margaret Davies, daughter of Ellis and Mary (Roberts) Davis. Mrs. Hughes was born in Carnarvonshire; had nine children - William, born August 1858, died when 12 hours old; Mary E and Maggie, twins, born August 2nd, 1859, Maggie died at birth, Mary E. died January 22nd, 1874; Ellis E., born August 20th, 1861, died at birth; Hugh W., born December 17th, 1862; Ellis E., April 9th 1864; Jane L., born October 5th, 1865; Maggie Ann, born December 18th, 1868; Batchy, born, October 6th, 1871, died same day.

Mr. Hughes was Town Treasurer one year, about 1875; his father died December 14th, 1873, aged 77; his mother died March 2nd, 1877, aged 69 years and 9 months.

Owns 220 acres; 150 acres cultivated.

Wisconsin County History.


MR. WILLIAM W. HUGHES (CAENANT), WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Bu farw y brawd uchod yn Chicago, Mai 1,1894, yn 66 mlwydd oed.

Aethai i'r ddinas uchod ychydig amser yn ol er cael gwellad o'r cancer oedd ar ei wefus, a llwyddodd Dr. Jones i'w thynu; ond yn ei wendid cymerodd y bronchitis a'r pneumonia afael ynddo, a therfynasint ei fywyd. Dranoeth i'w farwolaeth dygwyd ei gorff adref, a phrydnawn y 4ydd ymgynullodd tyrfa fawr iawn o'i hen gyfeillion a'i gydnabod i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent Cambria.

Dechreuwyd y gwasanaeth yn y ty trwy ddarllen a gweddio gan yParch. Mr. Morgans (A.), Cambria. Yna bedyddiwyd wyr bychan i'r ymadawedig, sef baban Griffith Roberta a'i briod, gan y Parch. G. Griffiths, ein gweinidog. Cafwyd anerchiad priodol a theimladwy gan ei hen gymydog a'i gyfaill, y Parch. John R. Jones, Columbus, a chan y Parch. R. H. Evans, Cambria, yn Saesoneg, a chanwyd amryw donau priodol i'r amgylchiad. Siaradodd Mr. Morgans ychydig wrth y bedd, a diweddwyd y gwasanaeth trwy weddi gan John R Jones.

Un o'r Sabbothau dilynol, traddododd Mr. Griffiths bregeth angladdol iddo.

Ganwyd ein brawd Mawrth 21,1828, ac yr oedd yn un o wyth o blant i William a Margaret Hughes, Clogwyn Gwyn, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, G. C. Ymfudodd gyda y teulu i'r wlad hon yn 1816, a buont yn byw yn Slatlngton, Pa., am tua dwy flynedd; yna daethant i ardal Welsh Prairie, Wisconsin.

Yn New York, Tachwedd 19,1857, gan y Parch. Wllliam Roberts, D. D., priodwyd ef ag un Margaret Davies, merch Ellis a Mary Davies, Caenant Llanberis, G. C. yr hon a fu yn ymgaledd gymwys iddo hyd y diwedd. Treuliasant y tair blynedd cyntaf ar ol priodi yn Middle Granvllle, N. Y.; yna daethant i Welsh Prairie, Wis., lle buont yn llwyddianus i wneyd cartref dedwydd a chysurus.

Bu iddynt naw o blant, o'r rhal y mae pedwar ya fyw, sef Hugh, Ellls, Jennie a Maggie.

Gadawodd hefyd ar ei ol dair o chwiorydd i gydalaru a'i wraig a'i blant, sef Mrs. Wllliams, Milwaukee; Mrs. Closs a Mrs. Spoon, Wymore, Nebraska.

O ran ei gymeriad fel dyn a Christion, safai y brawd yn uchel yn ngolwg ei gydnabod. Bu yn aelod eglwysig selog a ffyddlon gyda y T. C. ar hyd ei oes, a'r rhan fwyaf a phwysicaf hwyrach, o'i oes, gyda ni yn Jerusalem. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn enwedig ar y Beibl a llyfrau da eraill, fel nad oedd yn hawdd taro ar un mwy hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn yr ysgol Sabbothol, ac yn un hynod ddefnyddiol a gweithgar ynddi fel holwr ac athraw. Er nad ellir dweyd ei fod yn un hyawdl iawn, eto gallai siarad yn rhwydd ar unrhyw fater; a llawer gwaith y bu yn cynrycbioli ein hysgol yn y cyfarfodydd ysgolion fel areithiwr.

Yr oedd yn llenor a bardd lled dda hefyd. Ond odid nad oes rhai o ddarllenwyr y Cyfaill yn cofio ei ysgrifau dyddorol yn y Drych flynyddau yn ol, ar 'Hanes Welsh Prairie,' a chyfansoddodd rai darnau barddonol tra chymeradwy. Yr oedd yn ganwr rhagorol hefyd; a phe buasai wedi llafurio a gwrtelthlo ychydig ar y dalent hono pan yn ieuanc, diameu y gallasai fod yn enwog. Yr oedd cylch ei lais yn eang iawn, a gallai ganu yn beraidd i fyny ac i lawr. Yr oedd yn un o'r canwyr carolau goreu yn ei oes, yn ddiameu, a llawer Nadolig y bu yn ein dyddori a'r cyfryw.

Fel cymydog, yr oedd yn un heddychol a chymwynasgar, a hynod onest yn mhob peth; a buasai yn well ganddo mewn trafodaeth fasnachol gymeryd cam na gwneyd cam a neb. Nid oedd dim twyll a rhagrith o'i gwmpas yn unlle, ond byddai ei ymddygiadau yn ddangosiad cywir o'i feddwl a'i deimlad bob amser. Os byddai wedi tramgwyddo, nis gallai beidio dangos hyny; ac os yn gyfaill, byddai felly yn mhob man, a than bob amgylchiadau.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1894.