MISS BLODWEN HUMPHREYS. 958 N. 25TH STREET, OMAHA, NEBRASKA.
Ebrill 12fed, 1894, yn nhy ei rhieni, 958 N. 25th Street, Omaha, Nebraska, o'r typhoid fever, Blodwen, merch henaf y Cymry twymgalon a hawddgar T. C. a Jane Humphreys, yn 14 mlwydd oed.Mab ydyw Mr. Humphreys i Thomas a Margaret Humphreys. Adwyddu, Penrhyndeudraeth. Gogledd Cymru. Mae Mrs. Humphrevs. yr hon sydd ferch i'r diweddar John a Catherine Hughes. Oerddwfruchaf, Beddgelert, yn dyoddef dan gystudd trwm er's rhai misoedd.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon oddeutu deng mlynedd yn ôl. Yr oedd ein diweddar chwaer nid yn unig wedi ei dwyn i fyny yn yr eglwys ac ar aelwyd grefyddol, ond hefyd yn gallu mwynhau a sylweddoli crefydd bersonol i raddau helaeth iawn. Derbyniwyd hi yn gyflawn aelod o'r eglwys Gymreig (T. C.) oddeutu dwy flynedd yn ôl, a bu yn hynod o ufudd a gwasanaethgar yn ei chylch.
Yr oedd yn hoffi ei Beibl, ac yn meddu ar lawer o hono yn ei chof; byddai bob amser yn barod gyda'i hadnod, yn enwedig yn y gyfeillach. Yr oedd ganddi gyfeillion lawer, yn hen ac yn ieuanc, canys anhawdd oedd peidio ei hoffi. Yr oedd yn gantores naturiol. ac yn hynod o alluog o'i hoed, ac nid ychvdig o wasanaeth wnaeth hi yn y cylch hwn i'r eglwys, oblegid hi oedd yn chware yr organ am y ddwy flynedd ddiweddaf.
Pan ddarfyddodd yr eglwys Gymreig, ymunodd hi a'r teulu a'r 2nd Presbyterian Church, dan ofal y Parch. S. M. Ware. D. D., lle y bu yn aelod hyd nes ei symudwyd i'r eglwys fry.
Cafodd bob gofal meddygol oedd yn bosibl. Dangoswyd parch neillduol iddi hi, a chydymdeimlad dwfn a'r teulu yn eu trallod gan eu lluaws cyfeillion. Bu y gweinidog, Dr. Ware yn hynod o ffyddlon yn ystod ei salwch, a gellir dweyd yr un modd am aelodau yr eglwys, a lluaws o gyfeillion ffyddlon eraill.
Ar ddydd yr angladd. sef y 14eg, anfonwyd 120 o wreaths (coronau o flodau) ar ei harch. Gwasanaethwyd yn effeithiol yn yr angladd gan y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan quartette y capel, yn y tŷ ac wrth y bedd yn Forest Lawn.
Mae yn aros o'r teulu galarus un mab a dwy ferch. Daeth Richard Humphreys, brawd Mr. Humphreys, yma o Milwaukee i'r angladd, ond aeth yn ôl ddydd Llun, er mwyn gyru ei wraig yma i edrych ar ôl Mrs. Humphreys, yr hon fydd yn gysur mawr iddi, ac yn ychydig o esmwythad i Mrs. Griffiths, chwaer Mrs. Humphreys, yr hon sydd wedi bod yn hynod o ffyddlon yn ystod gwaeledd Mr. Humphreys.
WILLIAM WILLIAMS.