MRS. JANE HUMPHREYS. 981 N. 25TH STREET, OMAHA, NEBRASKA.
Mai 18fed, 1894, yn 38 oed, o waedlif yr ysgyfaint, Jane, anwyl briod T. C. Humphreys, 981 N. 25th Street, Omaha, Nebraska, wedi bod yn gystuddiol am tua 8 mis.Genedigol oedd o Oerddwr, Beddgelert, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, a'i henw morwynol oedd Hughes. Bu hi a'i phriod yn byw am beth amser yn Randolph, Wisconsin, a Chicago, Illinois. Tua naw mlynedd yn ôl symudasant i Omaha, Nebraska.
Aethai ei merch hynaf Blodwen i'r byd tu draw i'r bedd ychydig ddyddiau o'i blaen hi, a diau i hyny brysuro ei marwolaeth hithau.
Gadawodd i alaru ar ei hol briod a thri o blant bychain, yn nghyd a'i chwaer Mrs. Griffiths a'i theulu, yr hon a ymfudodd i America tua 2 1/2 mlynedd yn ôl, ac sydd yn byw yn Omaha. Yr oedd ein chwaer ymadawedig yn gyfryw ag yr oedd iddi air da gan bawb, a diau gan y gwirionedd ei hun. Ni ddarfu i ni erioed ameu ei duwioldeb. Gellid dweyd am dani, o leiaf er pan yr adwaenem hi, yr hyn a ddywedwyd am Vandeleur, "Ni welwyd mo honi, braidd un amser, heb ei chrefydd."
Bu hi a'i phriod a llaw fawr yn nghychwyniad yr eglwys Gymreig yn Omaha; meithrinai a dyddanai hi yr achos fel mam ei baban, a diau onibai y swcr gafodd lawer adeg gyfyng arno ganddi hi a'i phriod, y buasai ei oes wedi terfynu er's llawer dydd.
Nid oedd ei charedicach na hi yn yr holl ddinas, fel y gall degau o ferched a bechgyn ieuainc dystio heddyw. I'w thŷ hi y cyrchai pob Cymro dyeithr pan yn dyfod i'r dref, a lletyodd lawer ar hyd y blynyddoedd yn rhad ac am ddim. Nodweddid hi gan dymer addfwyn a gwastad. Anaml iawn y gwelwyd hi - nid ydym yn cofio i ni ei gweled hi erioed wedi ei chyffroi. Heblaw bod felly, ceisiai gadw tangnefedd mewn byd ac eglwys, a medrai roddi esiampl dda mewn maddeugarwch i lawer o honom.
Diau y teimla y cylch Cymreig yn ddwys iawn ar ei hol. Claddwyd hi Mai 20fed. Gwasanaethwyd yn absenoldeb ei gweinidog. Dr. Ware, gan y Parchn J. M. Wilson a T. T. Hopkins, yn cael eu cynorthwyo gan quartet y 2nd Presbyterian Church. Canodd Mrs. Sunderland, un o brif soloists y ddinas, "Consolation" by Wiebe, yn effeithiol dros ben.
Cafodd gladdedigaeth parchus iawn. Heddwch i'w llwch. Rhodded Duw o ddyddanwch yr efengyl i'r teulu trallodus.
J. R. JOHN.