MR. DAFYDD H. JONES. WAYNE, NEBRASKA.
Ebrill 8fed, 1894, yn ei gartref yn sefydliad Wayne, Nebraska, yn 49 oed, Dafydd H, Jones, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd o barlysiad yr ymenydd.Mab ydoedd i Hugh ac Elizabeth Jones, Alltdrigog, ger y Bala, Gogledd Cymru. Yu 1871 ymfudodd i Bridgewater, New York., lle cyn pen y flwyddyn y priododd Miss Jane James, merch ieuengaf William a Jane James.
Yn 1870 symudasant o Bridgewater i Red Oak, Iowa, a thrachefn yn 1886 i ardal Wayne, Nebraska.
Gan ei fod yn un o'r Cymry cyntaf i sefydlu yn yr ardal hon, cafodd y fraint o weled eglwys y T. C. yn cael ei ffurfio; a dyma yr adeg y gwnaeth broffes gyhoeddus gyntaf, er iddo gael ei fagu ar aelwyd grefyddol; ac o'r dydd hwnw hyd ei ymddatodiad gwnaeth ei oreu mewn pob dull a modd dros lwyddiant crefydd a Christionogaeth. Efe ydoedd arweinydd y canu cyuulleidfaol o gychwyniad yr eglwys hyd ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth; a chyflawnodd y gorchwyl pwysig yn hynod o ganmoladwy yn ôl y gallu ag yr oedd Duw wedi ei roddi iddo.
Yr oedd yn un o'r pedwar a ddewiswyd yn flaenoriaid yn 1888; a bu yn ffyddlawn a gweithgar fel swyddog hyd ei fedd. Yr oedd yn ddyn bywiog a chymdeithasgar, hawdd iawn gwneyd cyfaill o hono, ac yr oedd pawb a'i hadwaenai yn dra hoff ohono. Yr oedd ganddo gof rhagorol, yr hyn a brofadd yn fantais fawr iddo yn y blynyddoedd diweddaf pan yn analluog i ddarllen yr un gair o herwydd gwendid yn y llygaid.
Yn ei flynyddoedd olaf myfyriai lawer ar yr hyn yr oedd wedi ei ddarllen: ac yr oedd wedi dysgyblu ei gof mor dda fel y gallasai gofio braidd pob beth a glywai. Clywsom ef lawer gwaith yn adrodd darnau o bregethau a wrandawsai ddegau o flynyddoedd yn ôl; a hawdd iawn oedd canfod ei fod yn sylweddoli lles ysbrydol drwyddynt. Yr oedd gauddo allu meddwl cryf iawn, a'i fywyd crefyddol yn sefydlog, bywiog a dwfn; ond yr hyn a nodweddai ei fywyd fwyaf oedd ei onestrwydd, mewn byd ac eglwys. Dywedai ei feddwl yn berffaith glir a didderbynwyneb ar bob pwnc, a glynai wrth y gwirionedd hyd yn oed pe buasai pawb yn ei erbyn. Bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig am flynyddoedd lawer.
Cafodd angladd hynod o barchus, ac yr oedd y fath dorf a ddaeth yn nghyd yn brawf o'i barchusrwydd yn yr ardal. Gweinyddwyd yn y tŷ gan Mr. Vaughn Davies, ac yn y capel ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd.
Nawdd y nefoedd fyddo dros ei weddw a'i ddau fab, ei frawd yn y wlad hon, a'i frodyr a'i chwiorydd yn Nghymru.
D. L. HUGHES.