MR. EBENEZER M. JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Hvdref 20fed, 1894, yn Middle Granville. New York, yr hen gymeriad hynod, Ebenezer M Jones, mab y diweddar Barch Morris Jones (Yr Hen Broffwyd) o Bethesda, Arfon. Efe oedd yr hynaf ond un o naw o feibion, ac yr oedd chwaer i bob un o honynt (sef deg), fel y dywedai eu tad. Yr oedd wedi byw yn Middle Granville er's deugain mlynedd. Magodd naw o blant. ond mae tri o'r meibion wedi ei ragflaenu i fyd arall. Yr oedd pump o'i ferched yma yn claddu eu tad. Daeth Phoebe a'i phriod a'i merch yma o Leominster, Massachusetts, a'r chwaer Catherine, o Columbus, Ohio; mae y tair eraill yma yn byw, ac oll yn briod. Hefyd, daeth Dafydd M Jones, ei frawd, yma o Bangor, Pennsylvania.Nid oes yn awr yn aros ond dau frawd, Dafydd a Moses M. Jones, Bangor, Pennsylvania, y rhai sydd wedi tynu yn mlaen mewn oedran i gymydogaeth terfynau einioes dyn ar y ddaear, ond mae Dafydd yn sionc a beinif ac ysmala fel yn yr amser gynt.
Cafodd Ebenezer Jones fyw i fyned yn hen - tua 84. Yr oedd gynt o gyfansoddiad iach, cadarn, wedi ei gyfaddasu i ymladd brwydrau bywyd ond yr oedd hadau marwolaeth yn gweithio eu ffordd yn ei gyfansoddiad yntau, fel yr oedd wedi gwanychu yn raddol hyd nes i angeu ei orchfygu yn dragywydd ar y dyddiad a nodwyd. Yr oedd yn aelod eglwysig yma er's llawer o flynyddoedd gyda'r M. C., a gobeithiwn ei fod wedi ei gymwyso i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus ar y 28ain, pryd y daeth tyrfa fawr o'r gwahanol ardaloedd yn nghyd. Gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. Edward Roberts.