MR. JOHN GRIFFITHS, UTICA, NEW YORK.
Yn Utica, ar y 15fed o Fedi diweddaf, yn yr 28ain mlwydd o'i oedran, Mr. John Griffith, mab i William Griffith o'r Ty Newydd, Llandwrog, Caernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei deulu, o gylch tair blynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn y ddinas hon. Yr oedd y brawd hwn yn ddiwyd a llafurus gyda ei alwedigaeth, yn ddefnyddiol yn ei deulu, ac yn barchus yn mysg ei gydnabyddiaeth; ac o gylch dwy flynedd yn ôl aeth i weled ei angen am Grist yn Geidwad enaid, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y lle uchod, a bu yn ffyddlon, diwyd a defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd hyd ddiwedd ei oes; rhoddodd dystiolaeth amlwg yn ei ymddygiad mai yn nhy yr Arglwydd yr oedd ei hapus rwydd penaf, a dywedai yn ei gystudd diweddaf ei fod yn dymuno cael aros yno holl ddyddiau ei einioes a.y.
Ar ddydd ei gladdedigaeth, ar ôl pregeth yn y capel y perthynai iddo gan y Parch. W. J. Jones oddiwrth Ioan 1 1 : 1 1, hebryngwyd ei ran farwol i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw, hyd foreu yr adgyfodiad. Gadawodd ei briod a 4 o blant bychain i alaru o herwydd eu colled, ac i fod yn wrthrychau o dosturi a charedigrwydd cyfeillion mewn dyeithr wlad. rhagluniaeth yn gofalu am y weddw a'r amddifaid.