MRS. ELIZABETH JONES. CAMBRIDGE, MASSACHUSETTS.
Rhagfyr 27, 1894, yn Cambridge, Massachusetts, Mrs. Elizabeth Jones, yn 82 mlwydd oed. Cartrefai gyda'i merch Jennie, gwraig John J. Griffiths, 74 Plymouth Street, ers llawer o flynyddau.Yr oedd hi yn fodryb (chwaer mam) i W. W. George, Utica, New York ei frodyr a'i chwior- ydd; hefyd i David Williams (yr Ynys), Granville, New York, ei frodyr a'i chwiorydd, ac eraill yn y wlad hon.
Ganwyd yr ymadawedig yn Pentrefelin ger Bethesda. Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Dafydd a Margaret Morris (y Castell).
Tua 1836 priododd Richard Jones (y Gefnau), a bu iddynt bump o ferched ac un mab, o'r rhai nid oes ond Jennie yn fyw.
Bu farw Richard Jones yn 1861, ac yn mhen tua phedair blynedd ar ôl hyny ymfudodd Mrs. Jones gyda'i thair merch, Jennie, Eliza a Margaret. Yn Mawrth, 1865, sefydlasant yn Middle Granville, New York, lle yr oedd iddynt nifer o berthynasau. Yma bu farw Eliza (Solomon) a Margaret, tra yr oedd Jennie yn byw yn Cambridge. Yn 1878 symudodd i Cambridge i fyw gyda ei merch Jennie hyd ddiwedd ei hoes. Mwynhaodd iechyd rhagorol hyd o fewn tua blwyddyn yn ôl. Yr oedd yn hynod dawel a siriol bob amser.
Yr oedd yn aelod o eglwys Annibynol y Gefnau yn Nghymru. a soniai lawer am y Parch. Mr. Evans yr hwn, fel y deallwn, sydd yn bugeilio yno hyd heddyw, a chadwodd ei galwedigaeth yn sicr hyd y diwedd. Ni flinai byth ar son am yr Hwn yr ymddiriedodd ynddo. Nid oedd na chroes na chyni a aflonyddai y tawelwch digyffelyb a nodweddai ei chymeriad. Hen wraig anwyl ydoedd, un a enillai bawb i'w charu a'i pharchu, ac yn dawel dawel yr hunodd yn yr angeu, a'i phwys ar fynwes ei hanwylyd.
Claddwyd hi yn mynwent Middle Granville, New York, dydd Sul, Rhagfyr 30ain, 1894; gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Thomas. Heblaw ei merch Jennie a'i hwyr David Solomon o Cambridge, yr oedd yno nifer mawr o berthynasau a chyfeillion yn bresenol, a chyda hwy dymunwn, heddwch i'w llwch.
G. J. W.