MISS. ELLEN JONES. GRANVILLE, NEW YORK.

Medi 28ain, 1894, yn nhy ei rhieni yn Granville, New York, Miss Ellen Jones, merch hynaf Mr. a Mrs. Richard R. Jones, yn 17 mlwydd, 8 niwrnod oed, wedi misoedd o gystudd, yr hyn a ddyoddefodd yn hollol dywel a dirwgnach.

Ganwyd yr anwyl a'r addfwyn Ellen Jones yn Llanllyfni, Arfon, Medi, 1877, ac yn 1886 ymfudodd y teulu i West Pawlet, Vermont. Yr oedd tad yr ymadawedig yn nai i'r diweddar H. W. Hughes, y llech fasnachwr enwog.

Tua blwyddyn yn ôl symudodd y teulu i Granville, ac yn yr ysbaid byr yna aeth Ellen yn ddwfn i serch pawb a'i hadwaenai. Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth ymgasglodd llu o'i chyfeillesau ieuainc i'w chartref i ddathlu ei phen blwydd, a derbyniodd luaws o anrhegion gwerthfawr a phrydferth y rhai a brisiau yn uchel. Yr oedd yn aelod dichlynaidd a ffyddlawn o'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig, ac yn neillduol o gyson yn y moddianau tra y parhaodd ei nerth; hawdd oedd canfod ei bod yn llawenychu wrth fyned i dŷ yr Arglwydd. Claddwyd hi y Sul dylynol o'r capel y perthynai iddo gan dyrfa fawr a galarus yn mynwent newydd dyffryn y Mettowee.

Gweinyddwyd gan y Parch. Thomas M. Owens, West Pawlet yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Williams a Thomas, Granville. O barch i fendigedig goffadwriaeth yr ymadawedig, yr oedd pwlpud a dodrefn y capel wedi eu gwisgo mewn gwyn. Ychydig cyn ei hymddatodiad galwai ei rhieni, ei brodyr a'i chwiorydd at erchwyn ei gwely, a diolchai yn gynes iddynt oll am eu tynerwch a'u gofal am dani, a thra y llefarai daeth gwen nefolaidd dros ei gwynebpryd; hawdd oedd deall ei bod wedi cael cipolwg ar y "Brenin yn ei degwch."

Buasai yn dda genym allu tywallt balm i glwyfau dyfnion y teulu galarus, y rhai a achoswyd gan symudiad eu hanwyl Ellen. Diau eu bod yr un brofiad a Job gynt mai "tir tvwyllwch fel y fagddu" yw y bedd, ac mai gweithiwr hollol ddidrefn yw angeu, ac anhawdd iawn deall y priodoldeb o gymeryd i ffwrdd aelod mor anhawdd ei hebgor o'r teulu ac o gymdeithas un ag yr oedd ei rhodiadai buchedd yn rhwym o effieithio er daioni ar ei chyd-ieuenctyd, ond os na allwn ni eu cysuro, gallwn yn hyderus gyfeirio eu golygon i'r wlad lle mae Ellen yn byw; a sicr genym y gwelant oleuni yn pelydru trwy y tywyllwch caddugawl!

Cofiwch bob amser mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, ac mai efe o'i fawr gariad a gymerodd eich Ellen ato ei hun, o'i phoen a'i hafiechyd y dihoenai dano, i wlad lle na ddywed yr un o'i phreswylwyr "Claf ydwyf." Mae hi yn awr mewn gwlad o "dragywyddol haf," ac os am gymundeb a'ch Ellen, ewch o ran eich myfyrdod heibio y bedd i'r wlad hono.

Gobeithio y bydd yr oruchwyliaeth, er chwerwed yw, yn foddion dan fendith Duw i"ch cymwyso i ailgyfarfod eich hanwyl Ellen.
W. T. Williams.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed 1894.