MR. HENRY JONES. WILLIAMSBURG, IOWA COUNTY, IOWA.
Yn Williamsburg, Iowa, Mai 19eg, 1894, bu farw Mr. Henry Jones, o fewn ychydig fisoedd i 80 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Llanfihangel?, Sir Gaernarfon, yn 1814.
Ymbriododd â Margaret Jones, o Dolbenmaen, yn 1840.
Ymfudodd i Pennsylvania yn 1853, lle y bu yn gweithio fel glowr hyd nes symud, yn 1870, i Williamsburg, ac yma y cartrefodd hyd nes ei symud i'r byd tu draw i'r bedd.
Bu iddo wyth o blant, tri o ba rai ydynt wedi meirw; o'r gweddili sydd yn fyw, cartrefa pedwar o honynt - dau fab a dwy ferch - yn Williamsburg, tra triga y mab arall yn Pennsylvania.
Bu farw Mrs. Jones tua phum' mlynedd a haner yn ôl.
Cafodd ein brawd lawer iawn o gystudd yn ei oes. Anafwyd ef droion tra yn Pennsylvania - un tro neu ddau yn ddrwg iawn - a bu effaith hyny arno hyd ei fedd.
Yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn eglwys y T. C. yn Williamsburg, ac nid ychydig oedd y cynorthwy a roddai i gario yr achos yn mlaen yno, yn neillduol mewn ystyr arianol. Yr oedd wedi ei gaethiwo i'w dy er's dros flwyddyn, fel nad allai fyned i'r capel. Dyoddefodd lawer, ond yr oedd "amynedd yn cael ei pherffaith waith." Ni chlywyd ef yn grwgnach unwaith yn ystod ei gystudd, a bu farw yn dawel, yn ôl pob tebyg, a'i ddiwedd yn dangnefedd.
Yr oedd yn gymydog caredig, ac yn gyflawn yn ei fasnach bob amser, a llwyddodd i wneyd ei amgylchiadau yn gysurus iawn. Cafodd bob ymgeledd a chymorth a allasai ei anwyl ferch, Maggie, roddi iddo, yr hon a deimla yn unig iawn ar ei ôl.
Claddwyd Mr. Jones, Mai 22ain, yn Williamsburg. Arweiniwyd y gwasanaeth gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. McFarlane (Pres.), a Potter (M. E.) Duw yr heddwch fyddo yn Dduw i'r plant sydd yn galaru ar ôl tad tyner a gofalus.
J. R. JOHN.