MR. JOHN JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Awst 22ain, 1894, yn nhŷ W. O. Roberts, Marcy, Oneida County, New York, yn 22 mlwydd oed o enyniad yr ymysgaroedd, John Jones, gynt o Penbryn Bach, Celyn ger y Bala Gogledd Cymru.

Dygwyd ei gorff i ystafelloedd yr undertaker, D C Whitten, Utica, prydnawn dydd Gwener: ac yno y cynaliwyd y gwasanaeth angladdol gan y Parch. J. Hughes Parry.

Claddwyd ef yn Forest Hill Cemetery, Utica.

Y Drych ~ Awst 30ain 1894.