MRS. MARY JONES. RACINE, WISCONSIN.

Medi 3ydd, 1894, yn Racine, Wisconsin, Mary Jones, yn 75 mlwydd oed. Yr oedd wedi cael ymosodiad o'r parlys er's amryw flynyddoedd, a bu yn llesg byth er hyny, ac effeithiau yr hyn, yn nghyd ag anhwylderau eraill, a ddybenodd yn yr angeu.

Merch ydoedd i Humphrey a Mary Thomas, gynt o Tyddynypandy, Llanbedr, Meirion, Gogledd Cymru.

Daeth ei rhieni i Racine yn mysg y Cymry cyntaf a ddaeth i'r lle, a daeth hithau yn nghyd a'i gŵr cyntaf, sef Capt. Robert Jones, yma yn mhen tair blynedd ar eu hol, ac yma y treuliodd yr haner can mlynedd diweddaf o'i hoes.

Profodd amryw droion chwerw yn ngyrfa bywyd - cyfarfyddodd ei gŵr cyntaf â damwain angeuol, a boddodd mab iddi yn Llyn Michigan, a bu un ferch briod hefyd farw; ac y mae un mab ac un ferch yn aros.

Tuag 16 mlynedd yn ôl, priododd Edward Jones, yr hwn gyda'i phlant sydd mewn trallod mawr ar ei hol.

Yr oedd yn wraig dawel a thangnefeddus, ac yn neillduol o weithgar a darbodus. Yr oedd wedi bod yn aelod gyda'r T. C. er's amryw flynyddoedd. Yr oedd yn ymwybodol er's amser fod ei hymddatodiad yn agoshau, a'i phrofiad parhaus ydoedd:

"Ar lan Iorddonen ddofn,
'Rwy'n oedi'n nychlyd," a.y.

Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ar ddydd y claddedigaeth - y Parchn. Robert T. Roberts, M. A., a Thomas Evans yn gweinyddu.

Daeth ei llysfab, y Parch. William Jones, St. Louis, Missouri, i'w hangladd, a daeth tyrfa fawr o'i hen gymydogion a'i chyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion.

Y Drych ~ Medi 20fed 1894.