MR. MARY T. JONES. WEST BANGOR, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Awst 31ain, 1894, yn 86 mlwydd oed, yn nhy ei mab, John T. Jones, Cambria, Maryland, lle y gwnai ei chartref ers rhai blynyddau, Mrs. Mary T. Jones, gweddw John T. Jones o West Bangor, York County, Pennsylvania.

Hi oedd y Gymraes hynaf yn yr ardaloedd. Ymfudodd yno o Bangor, Gogledd Cymru, yn 1851.

Gadawodd ar ôl bedwar o blant - Miss Elizabeth Jones, Wind Gap; Mrs. William O. Hughes, Bangor, Northampton County, Pennsylvania; Robert T. Jones, Slate Hill, Pennsylvania, a John T. Jones, Cambria, Maryland.

Yr oedd yr ymadawedig wedi bod yn aelod crefyddol gyda'r A. er's 70 mlynedd. Claddwyd hi yn Slateville, y Parchn. J. Cadwaladr, J. B. Jones a J. D. Smith yn gweinyddu.

Y Drych ~ Medi 20fed 1894.