MRS. CATHERINE LEWIS. TURIN, NEW YORK.

Ionawr 25ain, 1894, yn Turin, New York, Catherine, anwyl briod William R. Lewis, yn 74 mlwydd oed, a chwaer i David Evans.

Ganwyd y chwaer yn Hafod-wian, ger Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Priododd Mrs. Lewis yn 1853; yna aethant i fyw i blwyf Llanbrynmair.

Yn 1856 daeth y teulu bychan, sef tad, mam a merch, i'r wlad hon, ond erbyn heddyw dyma'r fam a'r ferch wedi cael eu galw adref oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, a'r tad wedi cael ei adael yn unig yn ei hen ddyddiau.

Yr oedd Mrs. Lewis wedi cychwyn ei gyrfa grefyddol yn ieuanc iawn. Cafodd ei derbyn gan y diweddar Barch. John Williams, pan oedd ef yn weinidog yn Ninas Mawddwy. Ar ôl symud i Llanbrynmair, ymunodd a'r eglwys oedd yn cyfarfod yn yr hen gapel, dan ofal gweinidogaethol y diweddar Barch. S. R.

Ar ôl dod i'r wlad hon ymunodd hi a'i merch a'r eglwys Annibynol yn Turin, a daliodd yn ffyddlawn tra y parhaodd yr achos Cymreig yn y lle: yna ymunodd hi a'i phriod gyda'r eglwys Bresbyteraidd yn y pentref.

Ei chlefyd oedd y pneumonia; ni bu yn sal ond tua naw diwrnod. Bu ei brawd farw yn agos yr un amser ag y cymerwyd hi yn sal. yr hyn a effeithiodd yn fawr arni.

Gadawodd ar ei hol ei hanwyl briod a dau frawd, Evan Evans, Turin, a John E. Evans, sydd yn awr yn Nghymru.

Ar y 27ain ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o honi. Claddwyd hi yn ymyl ei merch. Gweinyddwyd gan y Parchn. Lewis Williams a Fry.

Yr wyf yn meddwl y gellir dweyd am y chwaer hon gyda llawer o briodoldeb - "Yr hyn a allodd hi a'i gwnaeth."
D. W. R.

Y Drych ~ Ebrill 19eg 1894.