MRS. ELIZABETH MORRIS. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Rhagfyr 9fed, 1894, ar ôl hir gystudd, Mrs. Elizabeth Morton, Minneapolis, Minnesota, yn 79 mlwydd a 7 mis oed.Genedigol oedd o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad hon tua 22 o flynyddoedd yn ôl. Yr oedd yn un o'r Cymry cyntaf i sefydlu yn Minneapolis, ac yn ei thŷ hi y cynaliwyd y drydedd ysgol Sul a'r ail gyfarfod gweddi Cymreig yn y ddinas, yn Hydref, 1880. Rhoddodd fenthyg ei Beibl i'w ddefnyddio ar y pulpud ar gychwyniad yr eglwys. Bu yn ffyddlawn i'r eglwys ar hyd y blynyddoedd gyda ei phresenoldeb yn y moddion, ei bywyd pur a'i chyfraniadau ewyllysgar. Darllenai lawer ar ei Beibl, ac yr oedd yn byw ei addysg.
Cadwyd gwasanaeth angladdol yn nhŷ ei merch, Mrs Pierce, 3843 Fifth Avenue, prydnawn ddydd Llun canlynol, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd, a boreu dranoeth hebryngwyd y corff i feddrod y teulu yn Le Sueur.
J. T. EVANS.