MRS. HANNAH OWEN. CRESCO, IOWA.
Ebrill 6ed, 1894, yn Cresco, Iowa, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd trwm, o'r pneumonia, Mrs. Hannah Owen, anwyl briod John R. Owen, diweddar o Foreston. Lime Spring.Merch ydoedd i'r diweddar Hugh a Mary Jones. Penlan, Roewen, Conway, Gogledd Cymru, Mehefin 9fed, 1875, ymunodd mewn glan briodas â John R. Owen.
Yn mhen naw mlynedd daethant drosodd i America, sef 1884, gan sefydlu yn Cresco, ond symudasant oddiyno yn lled fuan i ardal Foreston, ac yno y buont hyd o fewn ychydig fisoedd yn ôl.
Yr oedd ei thad wedi ei gladdu amryw o flynyddoedd o'i blaen, ond tua blwyddyn yn ôl y bu farw ei mam. Gadawodd briod a phump o blant bach mewn galar dwys a chwithdod dirfawr, gan ei bod - bob amser wedi llanw lle priod ffyddlon a mam dyner a gofalus. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn eglwys Dduw o'i mebyd, ac er fod ei chystudd mor fyr ac angerddol fel nas gallodd ddweyd odid i ddim beth oedd ei hyder i wynebu tragwyddoldeb, credwn iddi ymddiried ei hachos yn llwyr yn llaw Prynwr byw. Bu farw yn dawel.
Dodwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent Foreston. Oherwydd rhyw amgylchiadau trefnwyd yr angladd i fod nawn Sabboth yr 8fed. Cyflawnwyd y gwasanaeth arferol yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. Edward Joseph, yr hwn seiliai ei sylwadau oddiar Iago iv. 14.
Bydded i'r priod a'r plant amddifaid brofi tangnefedd Duw yn nydd y brofedigaeth a'r golled.
D. W. J.