MR. JOHN OWEN. CRESCO, IOWA.

Ebri11 28ain, 1894, yn Cresco, Iowa, John Owen, yr hwn fu am amser yn byw yn Foreston, ac yn aelod cyson yn yr eglwys Gymreig yn y lle, gan adael pump o blant bach yn amddifaid o rieni.

Nid oedd ond pythefnos i'r un diwrnod er pan oeddym yn helpu i hebrwng ei anwyl briod i dŷ ei hir gartref, a bychan feddyliem y pryd hyny y buasem yn gorfod helpu y plant bach mor fuan i'w hebrwng yntau at ei briod i briddellau y dyffryn. Eu haflechyd oedd pneumouia.

Brodor oedd ef o Benmachno, Gogledd Cymru. Gwehydd wrth ei alwedigaeth, ac mae iddo frawd mewn sefyllfa gysurus iawn mewn busnes yn Cresco, at yr hwn yr oedd ef a'i deulu wedi symud yn ddiweddar.

Yr oedd llawer o bethau i'w hoffi yn John Owen, a bu yn lled ffyddlon am flynyddau yn Foreston gyda'r ysgol Sabbothol a chyfarfodydd y plant. Y mae yn chwith iawn genym feddwl eu bod yn mlodau eu dyddiau wedi eu tori i lawr, tra yr oedd ganddynt bump o blant bach eisieu eu magu a'u dwyn i fyny; ond y mae ein Duw ni yn llon'd ei addewid, "yn Dad i"r amddifaid," a deallwn fod llu o galonau wedi eu hagoryd eisoes gan law y Nef yn anrhydeddus i'w magu a'u dwyn i fyny, ond deallwyf fod syniad gan rai o'r teulu am gael eu cadw gyda'u gilydd.

Ein gweddi yn wastad yw ar fod i nawdd y Nef fod yn glyd drostynt, a'u harwain oll i lwyhrau rhinwedd a chrefydd. Gwasanaethwyd yn y capel ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd.
EDWARD JOSEPH.

Y Drych ~ Mehefin 21ain 1894.