MISS. LIZZIE OWEN. WILLOW STREET, PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.
Chwefror 10fed, 1894, yn 21ain oed, Lizzie, merch hynaf Mr. Rees Owen, Willow Street, Plymouth, Pennsylvania, o'r darfodedigaeth.Genedigol ydoedd o Ffestiniog, Gogledd Cymru, ond ymfudodd i'r wlad hon rai blynddau yn ôl. Yr oedd yn ferch ieuanc foesol a duwiol, o'r hyn y rhodd dystiolaeth eglur yn ei bywyd a'i marwolaeth.
Cafodd gystudd nychlyd, ond dyoddefodd ef heb unwaith rwgnach, ac ni oddefai i neb arall wneuthur hyny chwaith. Yn ei dyddiau olaf hiraethai am gael gollyngdod, a dywedai ar ôl y gwasgfaeon y bu ynddynt nos Wener, nad oedd arni eisiau myned i'r nefoedd am ddim ond un noson wedyn - ond cael mynd yno i aros. Mynai i'w chyfeillion a'i pherthynasau canu gyda hi, a cheisiai ganu ei hun, a rhai o'i geiriau olaf oeddynt "Hark how the angels sing."
Dydd Mercher, y 14eg, cafodd angladd anrhydeddus, pryd y gwasanaethwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan ei gweinidog. y Parch. R. E. Williams.
Cafodd amryw blethdorchau hardd ar ei harch gan ei hen athraw Mr. Henry G. Williams, a'i hathraw presenol, Mr. L. F. Williams, a'i ddosbarth, a.y.
Gorymdeithwyd i'r fynwent gan blant yr ysgol Sul, a'i dosbarth, yn nghyd a llu o gyfeillion. Claddwyd hi yn mynwent Shawnee.
Y mae ein cydymdeimlad yn fawr a'i rhieni galarus yn eu profedigaeth.