MRS. JANE OWENS. AVOCA, PENNSYLVANIA.

Medi 11eg, 1894, yn Avoca, Pennsylvania, Mrs. Jane Owens.

Ganwyd hi Hydref 8fed, 1869, yn llain Waenwen, ger Bangor, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ei rhieni oeddynt William a Laura Jones. Bu ei thad rhagorol farw oddeutu pedair blynedd yn ôl; mae ei mam eto yn fyw ac mewn oedran teg gyda dwy chwaer a brawd vn yr Hen Wlad, a dwy chwaer a dau frawd yn America.

Ymfudodd Mrs. Owens i'r wlad hon yn Mai, 1892, ac yn mhen ychydig fisoedd priododd Hugh M. Owens, genedigol o'r un lle, gan ymsefydlu yn Avoca. Cafodd ein chwaer y fraint o ddwyn yr iau yn ei hieuenctid, a pharhaodd i'w dwyn hyd ei bedd. Rhoddodd brawf eglur ei bod yn caru Iesu Grist o galon bur. Byddai bob amser yn hynaws a difrifol, byth yn myned dros y terfyn mewn ysgafnder.

Cafodd gystudd maith a chaled, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel. Yr oedd y tawelwch hwnw a'i nodweddai yn ei bywyd yn dyfod i'r golwg hefyd yn ei chystudd; yr oedd yn gogoneddu Duw trwy ddyoddef, ac fel y bu fyw felly y bu farw yn dawel, megys yn syrthio i freichiau cwsg.

Dydd Gwener daeth tyria luosog i hebrwng ei gweddillion i fynwent Ashley, i ymyl ei hanwyl frawd William W. Jones. Gweinyddwyd yn y tŷ yn Saesneg, ac yn nghapel Ashley ac ar lan y bedd yn Gymraeg gan y Parch. Hugh Hughes (T. C.), Ashley. Duw fyddo yn noddfa i'n hanwyl frawd yn ei drallod, ac hefyd i'w mam yn Nghymru.
W. OWENS.

Y Drych ~ Medi 27ain 1894.