MR. WILLIAM D. OWENS. CHICAGO, ILLINOIS.
Ebrill 7fed, 1894, yn Chicago Illinois, o'r frech wen, yn 22ain oed, William D. Owens, anwyl fab Mr. David Owens, Llanberis, gynt o Cwm y glo, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Claddwyd yn meddrod Mr. George Evans yn y Forest Home Cemetery. Yr oedd yn fachgen ieuanc tra dymunol a hoffus a theimlir chwithdod a galar mawr ar ei ôl.
Cafodd gladdedigaeth barchus. Bu Mr. George Evans megys tad iddo.