MRS. JANE PIERCE. SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.

Hydref 31ain, 1894, yn San Francisco, California, Jane, priod y diweddar Owen Pierce, yn 61 mlwydd oed.

Yr anhwylder a droes yn angeu iddi oedd consumption of the throat. Bu yn wael am yn agos i ddwy flynedd, ond er hir nychdod a phoenau mawrion ar rai adegau, yr oedd ar y cyfan yn dawel, siriol a dyoddefgar.

Ganwyd ein chwaer yn Braich Melyn, plwyf Llanllechid, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, fore dydd Nadolig 1833. Yr oedd yn un o chwech o blant. Mae dau o honynt eto yn fyw, sef dau frawd. Robert a Thomas - yr olaf yn flaenor parchns yu eglwys Bryn Teg, Bethesda, Aôrfon, a'r llal, yr hynaf, yn byw yn y ddinas hon. Mae Robert T. Roberts - "Roberts y Mint," yn adnabyddus i ddarllenwyr y DRYCH er ys llawer blwyddyn.

Daeth ein chwaer ymadawedig i'r wlad hon yn 1851. Bu am rai misoedd yn Nhalaeth Maine. Aeth oddi yno i Boston, ac yn y flwyddyn 1851 daeth i California, lle y priocodd Owen Pierce o Bryngwran, Môn gynt. Cymerodd hyn le yr un flwydd yn ag yr ymfudodd i'r Dalaeth hon, sef deugain mlynedd yn ôl. Treuliasant y rhan fwyaf o'r blynyddau hyn yn San Francisco.

Yn 1887 ymunodd Mrs. Pierce a'r eglwys Gymreig yn Cambrian Hall. Y pryd hwnw, yr oedd fy hen gyfaill galluog, y Parch. W. R. Jones (Goleufryn) ar ymweliad a glanau y Mor Tawel, ac y mae yn debygol mai ei weinidogaeth ef fu yn foddion yn llaw Duw i'w thueddu i roi ei hunan i'r Gŵr a'i prynodd a'i briod waed. Cafodd nerth i lynu gyda'r achos o hyny hyd y diwedd.

Pan yn ymweled â hi yn ei chystudd, holai yn fanwl pa fodd yr oeddym yn dyfod yn mlaen yn Cambrian Hall, a gofalai am anfon ei chasgliad i'r trysorydd. Ymddengys i mi fod y gofal hwn am achos Iesu Grist yn dweyd cryn lawer yn ei ffafr. Nid trwy weithredoedd. mae'n wir, y cedwir dyn, ac nid heb weithredoedd. Mae ffydd yn y Gwaredwr yn cynyrchu ffrwyth yn ddiffael.

Heblaw y ddau frawd a enwyd, gadawodd blant ac wyrion i alaru eu colled ar ei hol. Yr oedd y plant oll yn orhoff o honi. Duw eu mam a'u bendithio oll. Cafodd angladd parchus ddydd Mawrth, Hydref 23ain, 1894, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Aaron Wiliiams.
R. VAUGHAN GRIFFITH.

Y Drych ~ Tachwedd 1894.