MR. LLEWELLYN PRICHARD. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Mai 25ain, 1894, yn Middle Granville, New York, yn 17 mlwydd oed, Llewelyn W. Prichard.Daeth adref oddiwrth ei waith yn yr hwyr, fel arfer, ond cwynai gan boen yn ei ochr.
Arferodd ei fam bob moddion a allai er lleddfu y boen, gan dybied mai ychydig anwyd oedd wedi ei gael. Cynygiwvd iddo y peth yma a'r peth arall ar hyd y nos, ond dim yn llwyddo i leddfu y boen.
Yn y bore anfonwyd am feddyg, yr hwn a'i harchwihodd ac a roddodd feddyginiaeth iddo, ond i ddim dyben, a bu farw y dyn ieuanc tua phump o'r gloch, trwy doriad y gwaed lestr.
Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Prichard, y rhai ddaethant i America tua saith mlynedd yn ôl, o Blue Bell Inn, Cwmyglo, un o'r sefydliadau mwyaf henafol a pharchus yn y plwyf. Mae i Mr. a Mrs. Prichard bump o feibion, un ohonynt, sef Tommy, yn briod er's tua blwyddyn, a thair o ferched, un yn briod er's rhai blynyddau.
Dyma sydd yn eithriadol iawn, er eu bod wedi eu magu mewn temtasiwn i ymyfed o'r ddiod felldigedig, nid oes yr un o honynt byth yn ei brofi nac yn arfer tobaco.
Parchant y Sabboth hefyd, a dylynent foddion gras yn gyson o'u mebyd.
Mae pawb trwy yn y gymdogaeth yn teimlo yn ddwys o golli y serchog Llewellyn o'u plith mor ddisymwth; a chydymdeimlir yn fawr â Mr. a Mrs. Prichard yn chwerwder eu profedigaeth lwm.
ERYR FYCHAN.