MR. RICHARD ROWLAND PRICHARD. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 28ain, 1894, yn Utica, New York, am ddau o'r gloch bore Mercher, wedi hir nychdod o'r darfodedigaeth, Richard Rowland Prichard, yn 29 mlwydd oed. Ail fab ydoedd i Griffith ac Ellen Prichard, grocers, Pool Lane, Cacrnarfon. Bu farw ei rieni pan oedd y plant yn bur ieuanc, y rhai a adawyd dan ofal gwahanol berthynasau. Yr oedd yn hanu o deulu parchus iawn - ei daid o ochr ei dad ydoedd y diweddar Griffith Prichard, Garnons Street, Caernarfon, aelod o eglwys y Parch. Herber Evans; a'i daid o ochr ei fam ydoedd y diweddar Richard Rowlands, Pendref, Caernarfon, gyda'r hwn y magwyd yr ymadawedig wedi marwolaeth ei rieni.Dygwyd ef i fyny yn grefyddol yn nghapel Pendref, a chadwodd ei broffes yn ddilychwin hyd ei farwolaeth. Dysgodd y gelfyddyd o argraffu gydag un Owen R. Owen, Turf Square, Caernarfon.
Yn 1887 ymfudodd i America, gan aros am ychydig yn Utica; yna aeth i Pittsburg, Pennsylvania, lle y dechreuodd ei iechyd ballu, ac y gorfu iddo adael ei waith.
Yn mhen tair blynedd ymwelodd a Chymru, ond ni fu ei arosiad yn hir yno, canys dychwelodd yn fuan i Pittsburg. Gwaethygodd drachefn, ac aeth i dreulio y gauaf i Florida, ond heb dderbyn ond ychydig adgyfnerthiad. Yr oedd wedi bod ar ymweliad ag Utica droiau er mwyn ei iechyd, ond ei amcan yn aros yn y ddinas y tro hwn ydoedd magu nerth cyn gwneyd ei ail ymweliad â Chymru.
Mae iddo amryw frodyr a chwiorydd a pherthynasau yn Nghymru a Lloegr, a brawd a chwaer yn y wlad hon, Miss Annie Prichard, Chicago, a Griffith Prichard, Little Falls, New York.
Yr oedd yn ddyn ieuanc caredig a chymdeithasgar, ac yn aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr yn Pittsburg. Yr oedd hefyd yn aelod o Gyfrinfa Roger Williams, Urdd y Gwir Iforiaid, ac Undeb yr Argraffwyr yn Pittsburg. Er nad oedd yn aelod gyda'r Iforiaid yn Utica, trodd Cyfrinfa Goronwy allan yn gryf, oddeutu 60 mewn rhif, a gwnaethant arddangosiad anrhydeddus. Anfonasant obenydd hardd o flodau gyda'r gair "Ifor" arno fel arwydd o'u parch; hefyd cafwyd blodau prydferth gan yr argraffwyr o Pittsburg a chyfeillion eraill yn Utica a Little Falls.
Mae Mr. a Mrs. David D. Griffith wedi bod yn garedig dros ben, a byddai yr ymadawedig yn son yn aml mor ffodus ydoedd i gael y fath gartref.
Am ddau o'r gloch y dydd Gwener canlynol daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. G. Jones, D. D., yr hwn a draethodd oddiar Salm 119:75. Canwyd gan John Q. Hughes, William R. Thomas, Mrs. L. L. Griffith a Miss Maggie Evans, a chariwyd gweddillion y Cymro caruaidd Richard R. Prichard i orphwys i New Forest Cemetery gan ei gyd-frodyr Iforaidd John G. Roberts, G. W. Davies, Robert O. Williams. Humphrey R. Jones, William G. Williams a Evan O. Williams.
Heblaw yr hyn a dderbynir at yr angladd oddiwrth Gyfrinfa Roger Williams, Pittsburg, Pennsylvania, cyfrenir $75 gan Undeb Argraffwyr Pittsburg, $50 gan Undeb Cydgenedlaethol yr Argraffwyr. Ymddygodd Argraffwyr Pittsburg yn anrhydeddus iawn trwy gadw Mr. Prichard yn glir ar eu llyfrau tra yr oedd yn glaf.