MR. JOHN E. RICHARDS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 3ydd, 1894, yn Nelson, Swydd Madison, New York, John E. Richards, yn 65 mlwydd oed, o'r pneumonia. Ni fu yn sal ond rhyw bum niwrnod, ond cafodd gystudd trwm.Yr oedd yn flaenor yn eglwys y T. C. er's llawer o flynyddoedd, ac yn golofn gref gyda'r achos, a bydd yn golled dirfawr i'r achos yn ei wendid eisoes. Yr oedd o argyhoeddiad dwfn a phenderfynol dros yr hyn oedd yn gredu oedd yn iawn: nid oedd ynddo y cydymdeimlad lleiaf a'r dyn twyllodrus yn un man, chwaithach yn yr eglwys. Yr oedd yn afaelgar gyda'i amgylchadau tymorol, ond nid oedd unrhyw brysurdeb yn ddigon i beri iddo esgeuluso cadw y ddyledswydd deuluaidd yn gyson.
Mab oedd i Edward ac Elizabeth Richards; bu ei dad yn flaenor gyda'r T. C. yn Oriskany a Nelson. Mae rhywbeth mewn cael codiad mewn teulu crefyddol.
Ganwyd ef yn Bwlchcwmcywydd. Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Daeth ei rieni a naw o blant drosodd yn 1810. Bnont yn byw yn Oriskany tua 23 o flynyddoedd. Symudasant i Nelson yn 1853.
Priododd Mr. Riohards un Miss Mary Williams, Oriskany, Awst 10fed, 1859, a bu yn ymgeledd gymwys iddo hyd derfyn ei oes. Cafodd lawer o gystuddiau, ac efallai fod hyny yn peri fod y teulu yn credu y buasai yn gwella y tro yma eto.
Gadawodd briod a phedwar o blant mewn galar dwfn ar ei ôl - dau yn briod, Charles Richards, y mab hynaf. newydd ddychwelyd o'r gorllewin ar ôl bod i ffwrdd agos i chwe blynedd, a'r unig ferch, sef Mrs. David Hughes, Whitesboro; a David a John gartref gyda'u mam. Gadawodd hefyd ddau frawd, sef William Richards. Nelson, yr hwn sydd yn gystuddiol er's misoedd; a David Richards. Utica, yntau yn wanaidd, a phedair chwaer, Mrs. Richard Roberts, Delta, Mrs. John Williams. South Trenton, Mrs. Jones, priod y Parch. John H. Jones, Rome, a Miss Margaret Richards, Nelson.
Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. B. D. Davies, Oriskany, ac yn nghapel yr Annibynwyr, lle mae claddfa y Cymry, pregethwyd gan Mr. Davies oddiar Psalmau 122: 2. a chynorthwywyd yn y gwasanaeth gan y Parch. R. Hughes.
Yr oedd yn hawdd canfod wrth y dyrfa yn y tŷ ac yn y capel fod un o heddychol ffyddloniaid Israel wedi cwympo. Yr Arglwydd a fyddo yn dirion wrth y fam a'r plant a'r perthynasau oll yn eu galar. Duw yr heddwch a'ch dyddano. Bydded i'r nefoedd gofio Seion, a llanw y bwlch a wnaed yn ei farwolaeth. Canwyd yn fendigedig "Bydd myrdd o ryfeddodau" ar lan y bedd cyn ymadael.
B. D. DAVIES.