MR. WILLIAM RICHARDS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 19eg, 1894, yn Nelson, Sir Madison, New York, William Richards, yn 76 oed.Yr oedd Mr. Richards yn un o ddinasyddion mwyaf cyfoethog, dylanwadol a blaenllaw Nelson a'r cylchoedd, ac yn un o hen golofnau yr achos Annibynol Cymreig yno.
Bydd ei farwolaeth yn golled ddirfawr i'r achos ac i'r gymydogaeth.
Daeth i'r wlad hon o Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, pan tuag ugain oed, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nelson.
Cariai yn mlaen fasnach helaeth mewn prynu a gwerthu ymenyn a chaws, a meddai ymddiried trylwyr pawb yn ei onestrwydd a'i graffder.
Heblaw ei weddw, gadawodd wyth o blant, Nelson, Wellington, Newton, Lincoln, Edward, John a Lizzie Richards, oll o Nelson; a Milton Richards o Utica.
Hefyd gadawodd un brawd, David E. Richards, Utica, a phedair chwaer, Mrs. John J. Williams o South Trenton; Mrs. John H. Jones o Rome; Mrs. Richards o Delta; a Margaret Richards o Nelson.