MRS. MARY ROBERTS, BELOIT, WISCONSIN.
Ebrill 20fed, 1894, yn Beloit, Wisconsin, o glefyd y galon, Mrs. William Roberts, yn 73 mlwydd oed.Merch ydoedd i Cadwaladr Owen, Doppog, Tanygrisiau. Ffestiniog, Gogledd Cymru, a chwaer i David Owen, ysgolhaig gwych a graddedig o goleg Beloit, a fu farw yn nhy yr ysgrifenydd yn ninas New York yn 1856, yn fuan wedi ei dderbyn i Union Theological Seminary, i ymbaratoi i'r weinidogaeth. Diau y cofia golygydd y DRYCH yn dda am yr amgylchiad, gan ei fod wrth ei wely ac yn gweini yn garedig iddo yn ei oriau olaf.
Daeth Mrs. Owens, oedd yn weddw cyn gadael Cymru, a'r plant i Wisconsin yn 1850, ac wedi peth arosiad yn Kingston, Wisconsin, symudodd i Beloit gyda rhan o'r teulu, yr ymadawedig yn eu mysg, er mwyn cyfleustra i'w mab Dafydd gael manteision yr athrofa yno.
Ymunasai yr ymadawedig mewn priodas gyda William Roberts tua thair blynedd cyn eu dyfodiad i America. Ymsefydlasant ar dyddyn gerllaw Beloit, yr hwn sydd eto yn meddiant y teulu. Bu iddynt 11 o blant, o'r rhai y mae wyth yn fyw, ac mewn amgylchiadau cysurus.
Bu farw Mr. Roberts yn 1888, wedi maith waeledd a chryn ddyoddef gan ddiffyg anadl, ac ymadawodd hithau a'r fuchedd hon y dyddiad a welir uchod, gan fyned i dangnefedd heddychol a thragywyddol, a gadael i'w pherthynasau enw a choffadwriaeth sydd fendigedig ac anwyl iawn. Yr oedd iddi air da gan y rhai a'i hadwaenent, a chan y gwirionedd ei hun. Dyddaned ei phlant hiraethus a'i pherthynasau oll eu calonau gyda'r sicrwydd o hyn.
G. GRIFFITHS.