MR. ROBERT G. ROBERTS. WEATHERSFIELD, OHIO.

Gorphenaf 4ydd, 1894, yn Weathersfield, Ohio, Robert G. Roberts, yn 69 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Llanerfyl Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Glaniodd yn New York pan yn ugain oed, ac aeth at berthynasau i Ebensburg. Cymerodd daith i'r Gorllewin mor bell a St. Louis, ac oddiyno daeth yn ôl i Weathersfield.

Ymunodd mewn priodas â Mary Evans o Sir Drefaldwyn - cwlwm hapus a chysylltiad dedwydd hyd nes gwahanodd angeu. Buont byw gyda'u gilydd 42 o flynyddau, a bu iddynt chwech o blant, ond pump sydd yn fyw yn awr. Bu farw John yn 16 oed. Yr oedd yn fachgen rhinweddol a gobeithiol iawn.

Cymwysodd un arall o'r teulu, Richard Roberts, ei hunan i'r weinidogaeth, ac mae yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol gyda'r M. C. yn Ebensburg ar hyn o bryd. Yr oedd Roberts yn grefyddol pan ddaeth i'r wlad hon gyda'r Annibynwyr; ond rhywsut cafodd ei amddifadu o freintiau crefyddol, a chan nad oedd yn gyfarwydd a'r Saesneg difaterodd ac oerodd ei sel, eto yr oedd yn ffyddlon iawn i ymwneyd a moddion gras, yn selog gyda'r ysgol Sabbothol ac yn meddu gwybodaeth helaeth o'r Ysgrythyrau, yr hyn oedd yn ei gymwyso i fod yn athraw defnyddiol ar ddosbarth.

Ychydig o amser cyn ei farwolaeth ymunodd ag eglwys y M. C., lle yr oedd ei deulu yn aelodau ac yn rhai diwyd.

Bu farw o fwyliad y galon.

Yr oedd y brawd Roberts yn dderbyniwr ffyddlon or DRYCH o'i gychwyniad cyntaf, a pharhaodd felly trwy ei oes. Bu allan am dymor yn y rhyfel, ac yr oedd yn derbyn pensiwn yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd trwy ddiwydrwydd wedi gadael ei deulu yn gysurus o ran eu hamgylchiadau tymorol.

Dydd Gwener canlynol ymgasglodd torf at ei dŷ i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Ebenezer Evans a D. Jewett Davies, Youngstown. Claddwyd ef yn mynwent Weathersfield, yn ymyl ei gartref.

Y Drych ~ Gorphenaf 26ain 1894.