MR. TOM ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.

Tachwedd 8fed, 1894, yn West Pawlet, Vermont, Tom Roberts, yn 18 mlwydd oed.

Bu yn nychu am lawer o fisoedd, a dyoddefodd y cyfan yn dawel ac amyneddgar. Cerid ef gan gylch eang o berthynasau a chyfeiilion. Yr oedd yn llanc hardd a bucheddol, ac yn ei farwolaeth pallodd y galon dyneraf a churo.

Hebryngwyd ei weddillion i'r Fynwent Newydd gan dyrfa fawr a pharchus, pryd y gweinyddwyd yn deimladwy gan y Parch. Thos. M. Owen.

Ymfudodd ei rieni i'r wlad hon oddeutu 12 mlynedd yn ôl o Llanllyfni, Gogledd Cymru.

Saeth ofidus iddynt yn eu hen ddyddiau oedd colli eu mab anwyl ac ieuengaf Tom.

Dygwyd drwy'r darfodedigaeth - anwyl
Lanc i hun marwolaeth,
Colli Tom oedd siom a saeth
I'w deulu ac i'r dalaeth.
DEWI.

Y Drych ~ Rhagfyr 6ed 1894.