MR. WILLIAM E. ROBERTS. SYCAMORE STREET, MILWAUKEE, WISCONSIN.
Mawrth 29ain, 1894, W. E. Roberts, Sycamore Street, Milwaukee, Wisconsin, yn dra sydyn, trwy doriad llestr gwaed pan oedd yn pesychu. Ni bu fyw ond ychydig eiliadau. Yr oedd wedi bod yn wael er's tro.
Yr oedd Mr. Roberts yn ddyn da mewn amryw ystyriaethau, fel y dywedwyd yn y bregeth ragorol ar ddydd ei angladd, a bydd chwithdod am dano am amser.
Daeth i'r wlad hon yn 1857 o Dan Faenan, yn ymyl yr Abbey, ger Llanrwst, Gogledd Cymru, yn y llong o'r enw Southampton, gan sefydlu yma. Mae amryw hyd y wlad hon eto yn cofio yn dda am yr hen long,
o herwydd iddi gymeryd tân ar ganol y mor.
Daeth Mr. Roberts at grefydd dan weinidogaeth y Parch. John Evans, Eglwys Bach, pan oedd ar ei ymweliad cyntaf a'r wlad hon. Yr oedd Mr. Roberts yn un o ymddiriedolwyr capel y T. C.
Gadawodd weddw a dau o blant ac un ferch o'r wraig gyntaf i alaru ar ei ôl; ond maent mewn amgylchiadau cysurus.
Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon a roddo nerth iddynt yn eu profedigaeth chwerw.
Dydd Sadwrn, Mawrth 31ain, hebryngwyd ei weddillion i dŷ ei hir gartref yn Forest Home, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. E. Jones, G. Griffiths a Dr. Evans (Ednyfed).