MR. JOHN E. THOMAS, WILKESBARRA, PENNSYLVANIA.
Boreu Sadwrn, Hydref 6ed, 1894, taflwyd yr holl ardal hon i bruddder gan y newydd trist fod angau wedi gorphen ei waith ar yr hen Gymro adnabyddus a'r Cristion cywir John E. Thomas, neu fel yr adnabyddid ef gan y mwyafrif, Shon Edward, a chredwn ei fod yn wir deilwng o ofod yn eich misolyn clodwiw.Bu yn dyoddef yn dawel am dri mis oddiwrth y Bright's disease, ond boreu Sadwrn, Hydref 6ed, 1894, cymerwyd ef adref oddiwrth ei waith at ei wobr. Ganwyd John E. Thomas, Mai 8fed, 1824, yn Tyn-y-llidiart, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, G. C. Enw ei dad ydoedd Edward Thomas, corner yn y chwarel. Yn 1846, priododd â Miss Mary Jones, merch Robert Jones, Nefyn. Yn ngwanwyn 1872, ymfudodd i'r wlad hon, a sefydlodd yn Upper Lehigh, lle bu yn golofn gadarn yn achos y Gwaredwr gyda'r Bedyddwyr am ddeng mlynedd; yna symudodd i'r ardal hon, a gyda chymorth ychydig o frodyr ffyddlon, a gododd eglwys i'r enwad, yr hon sydd yn addurn i'r ardal. Yr oedd yr hen frawd yn gymeriad hollol ar ben ei hun - yn adnabydbus yn yr ardaloedd fel Cristion gloew a ffyddlon, yn ben teulu doeth a charedig, a'i lety bob amser yn agored led y pen i weision yr Arglwydd a dyeithriaid yn gyffredinol. Byddai bob amser yn ffyddlon a phrydlon yn yr addoliad; ac os dygwyddai ei gornel fod yn wag, gwyddai pawb fod rhywbeth cyfreithlon yn galw.
Fel blaenor, yr oedd yn uchel yn ngolwg yr eglwys, yn arfer llawer o ddoethineb a phwyll, ac yn neillduol dros gadw purdeb yr eglwys. Llafuriodd yn galed o dan lawer o anfanteision, a chododd dyaid o fechgyn sydd yn glod i'r ardal ac yn anrhydedd i'n cenedl. Teimla yr ardal a'r achos fod bwlch pwysig wedi ei wneyd trwy farwolaeth yr hen dad, ac y cymer amser maith cyn y daw neb i lanw ei le.
Dydd Llun, Hydref 8fed, 1894, daeth tyrfa luosog o'r ddinas a'r ardaloedd cylchynol i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Am ddau o'r gloch, symudwyd yn araf tua'r capel, ac hawdd oedd deall, wedi myned i fewn, fod un o gedyrn Seion wedi cwympo. Gweinyddwyd yn y capel gan y Parchn. Edward Jenkins a J. E. Davies, M. A, Plymouth. Siaradwyd yn deimladwy ac effeithiol iawn. Gweddi yr eglwys ydyw am i'r Arglwydd anfon amryw eraill i lanw y bwlch.
Gadawodd weddw oedranus a saith a blant, sef pump o fechgyn a dwy ferch, i alaru eu colled ar ei ôl. Mae iddo dri o frodyr yn Nghymru, sef Robert, Thomas ac Elias, ac un ferch.