MR. OWEN THOMAS. FRANKFORT HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 23ain, 1894, yn Frankfort Hill. Oneida County, New York, Owen Thomas, yn 79 mlwydd, 8 mis a 14 diwrnod oed, gan adael gweddw, tri mab a dwy ferch.

Ymfudodd i'r wlad hon o Sir Gaernarfon 43 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn flaenor gyda'r T. C.

Claddwyd ef yn Frankfort ddydd Gwener.

Y Drych ~ Tachwedd 1af 1894.


MR. OWEN THOMAS. FRANKFORT HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 23ain, 1894, yn Frankfort Hill, gerllaw Utica, New York, y diacon a'r hynafgwr Owen Thomas, yn 79 mlwydd, 7 mis, a 14 diwrnod oed. Bu yn wael er's blynyddau, a bu yn orweddog y pum mis olaf. Afiechyd yr afu oedd yn ei flino er's llawer o amser, ac o'r diwedd a drodd yn angeuol.

Ei ardal frodorol ydoedd Bryn Teg, yn agos i Dremadog. Caernarfon. Daeth i'r wlad hon 43 mlynedd yn ôl i Mai diweddaf.

Yr oedd y« grefyddwr er's dros haner canrif, ac er's blynyddau lawer yn ddiacon yn eglwys y T. C. ar Frankfort Hill, y capel yn agos i'w dŷ. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn astudiwr mawr ar y Beibl. Darllenodd ef drwyodd yn fanwl 16 o weithiau, ac yr oedd yn selog dros yr ysgol Sabbothol, ac yn gyson ynddi tra daliodd ei iechyd.

Bydd yn golled drom i'r eglwys fechan am dano. Gadawodd i alaru ar ei ôl Ellen, ei weddw, tri o feibion, John o Iowa, Thomas ac Evan o Frankfort Hill. Dwy ferch, Mrs. Horace James a Mrs. David Perry, o'r un ardal, ac un wyres, merch i Dr. Thomas, oedd wedi rhagflaenu ei dad.

Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent Frankfort, y Parch. John H. Jones, Rome, yn gweinyddu yn Gymraeg a Saesneg. "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn all- an, medd yr ysbryd, canys gorphwysant oddiwrth eu llafur a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt."

Y Drych ~ Tachwedd 8fed 1894.