MR. NICODEMUS GRIFFITHS, GRANVILLE, OHIO.

Ganwyd Nicodemus Griffiths yn agos i Bwllheli, Caernarfon, yn y flwyddyn 1771. Trwy ymdrechiadau mam grefyddol dygwyd ef i fyny yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd.

Enwau ei rieni oeddynt Griffith ac Elizabeth Walter.

Yn y flwyddyn 1797 ymunodd yn y sefyllfa briodasol gyda Miss Ellen Thomas. Y mae ei weddw hiraethus sydd yn awr yn galaru ei symudiad, yn hyderus ddysgwyl ewyllys ei Harglwydd i ddylyn ei phriod sydd fel hyn wedi blaenu y daith. Daethant ill dau at grefydd dan weinidogaeth y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, yn 1798 — sef y flwyddyn ganlynol ar ol eu priodi.

Ymfudasant i America yn ngwanwyn y flwyddyn 1801. Dioddefasant afiechyd yn New York am tua phedwar mis, ar ol eu tiriad yno. Yn yr Hydref o'r un flwyddyn aethant i fyny a sefydlasant yn Steuben, lle y buont byw am flynyddoedd. Ar ddymuniad y brawd yma a rhyw bedwar eraill daeth y Parch. Daniel Morris o Utica i Steuben, a sefydlwyd yr eglwys Annibynol gyntaf (fel y sylwyd uchod) yn yr ardal. Dywedir fod y ddiadell fach, drwy ymdrechiadau y brawd hwn a'i gyfeillion, a than ymgeledd y Pen Bugail, yn dra llwyddiannus — yn cynyddu mewn rhifedi a grasusau beunydd.

Yn y flwyddyn 1815 (sef ar yr un pryd a Walter Griffiths a'i deulu) ymfudodd yntau gyda ei dylwyth i Granville, Ohio, lle y bu byw yn addurn i grefydd hyd ei farwolaeth yr hyn a gymerodd le Tachwedd 21, 1848, sef yn mhen y pum' niwrnod ar ol marwolaeth ei gyd bererin Walter Griffiths. Yr oedd y ddau henafgwyr hyn yn berthynasau agos â'u gilydd (tad Nicodemus a mam Walter yn frawd a chwaer) ac yn Ohio yr oeddynt yn gymydogion a'u tir yn cyffinio, am 33 mlynedd. Mae eu plant parchus a chrefyddol yn dangos cymeriad a ffyddlondeb eu rhieni gyda'r grefydd deuluaidd.

Yn eu cymydogaeth yr oeddynt yn "halen y ddaear " a "goleuni y byd," yn dangnefeddwyr, yn elusengar, yn ofni Duw, ac yn gwneuthur daioni.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1849.