MR. WILLIAM E. THOMAS, RANDOLPH, WISCONSIN.
Tachwedd 27ain, 1894, yn Randolph, Wisconsin, William E. Thomas, yn 62 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Sir Gaernarlon yn 1832. Daeth gyda'i dad a'r teulu i'r wlad hon yn 1846, gan ymsefydlu yn Proscairon.
Yn 1857, priododd Miss Elizabeth Owens, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd angeu. Buont fyw yn Proscairon hyd 1876, pryd y symudodd y teulu i Randolph, lle y treuliodd ef weddill ei oes. Yr oedd wedi trefnu ei amgylchiadau i fyned i fyw i Milwaukee; ond diwrnod cyn y bwriadai gychwyn cymerwyd ef yn glaf gan y pleurisy, yn hyn gyda'r asthma oedd yn ei boeni er's blynyddau ac a brofodd yn angeu iddo yn mhen yr wythnos.
Dyn bychan oedd o ran ei gorff, llai na'r cyffredin; ond yn feddianol ar feddwl cryf iawn. Yr oedd yn siaradwr rhwydd ar unrhyw fater, yn ganwr lled dda, yn weddiwr cryno a gafaelgar, ac yn feddianol ar dalent i fod yn ddefnyddiol mewn cymdeithas. Treuliodd ei fywyd yn ngwasanaeth ei Arglwydd a chredwn iddo gael gafael ar grefydd drodd yn elw iddo pan oedd pob peth arall yn ei adael.
Claddwyd ef Tachwedd 30ain, yn mynwent Randolph, yn ngwydd torf fawr o'i gyfeillion a'i gydnabod. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. R. Daniel, R. H. Evans, D. R. Jones a Griffith Griffiths.
Gadawodd i alaru ar ei ôl ei anwyl briod a phump o blant, sef Mrs. John Lewis, Randolph, Mrs. William Jones, Milwaukee; Mrs Griffith Thomas, Columbus Junction, Iowa, Hannah a Maggie.
Dymunwn nawdd y Nefoedd ar y teulu yn y dyfodol.
T. D. ROBERTS.
Y Drych ~ Rhagfyr 13eg 1894.
MR. WILLIAM E. THOMAS, RANDOLPH, WISCONSIN.
Yn Randolph, Wisconsin, Tachwedd 27ain, 1894, bu farw y brawd anwyl William E. Thomas.Mab ydoedd i Ellis a Mary Thomas, Bryn Madog, Sir Gaernarfon. Ganwyd ei yn Hydref 16eg, 1832.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1846, gan ymsefydlu yn Proscairon, ger Cambria, Wisconsin. Yn Gorphenaf 22ain, 1857, ymbriododd ag Elizabeth Owens, merch y diweddar ddiacon John Owens. Ar ôl byw yn Proscaìron am 19eg o flynyddoedd, symudodd i fyw yn agos i Randolph, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau ar y ddaear.
Nid oes genym fawr o hysbysrwydd am ei hanes yn yr Hen Wlad. Treuliodd yno y pedair blynedd ar ddeg cyntaf o'i oes - un o'r cyfnodau pwysicaf yn ei hanes ef, fel pob dyn arall. Oddiwrth yr hyn a wyddom am dano yn y wlad hon, y mae yn deg i ni gasglu ei fod wedi darllen a meddwl llawer iawn, ac iddo "er yn fachgen wybod yr Ysgrythyrau."
Gwanaidd fu iechyd corfforol ein hanwyl gyfaill am lawer o flynyddoedd, ac o herwydd hyn ymdrechodd gyda'r byd dan lawer o anfanteision; ond trwy ei ddiwydrwydd a'i feddylgarwch, yr oedd wedi dyfod i amgylchiadau cysurus yn y byd. Yn gyffredinol gellir dweyd amdano fel yr ysgrifena y Parch. Daniel Williams: "Dyn llon, bywiog, dymunol, oedd William Thomas, a chanddo atebiad parod a ffraeth bob amser. Gofynwyd iddo unwaith, 'Beth yw eich taldra chwi, William Thomas': 'Wel, yr ydw'i yn bum' troedfedd a modfedd,' meddai yntau, gan roddi pwyslais ar y gair diweddaf, fel pe na fuasai y fodfedd hon gan neb ond efe."
Yr oedd gan ein brawd amryw dalentau, a chysegŷodd hwy i wasanaeth Duw. Yr oedd yn meddu talent i ganu. Bu am ryw gymaint o flynyddoedd yn arweinydd canu yn nghapel Proscairon. Nid wyf yn gwybod pa faint o sylw a roddodd i'r wyddor gerddorol. Yr oedd yn ystyried fod mawl deallus yn rhan arbenig mewn addoliad cyhoeddus. Dangosai awydd mawr bob amser i gadw i fyny y cyfarfodydd canu, er mwyn perffeithio y rhan bwysig hon o'r gwasanaeth crefyddol. Nid oedd yn foddlawn ar ganu yr hen donau a'r hen emynau byth a hefyd, ond amlygai sel dros y gorchymyn hwnw, "Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd."
Fel y canlyn yr ysgrifena Daniel Williams ar hyn: "Bu am flynyddoedd yn arweinydd y canu yn hen ardal Proscairon. Er mai Wllliam Wllliams, Ty Coch, fel prif gerddor yr ardal, fyddai yn cadw y cyfarfodydd canu, byddai William Thomas ynddynt bob amser yn barod i gynorthwyo yn mhob modd. Yr oedd ef uwchlaw eiddigedd a chenfigen, sydd yn peri fod cymeriad aml i ganwr yn annymunol." Yr oedd yn meddu talent i addysgu eraill fel athraw. Bu yn aelod defnyddiol iawn o'r ysgol Sabbothol. Rhoddai sylw neillduol i ddarlleniad yr Ysgrythyrau. Treuliai amser i ddysgu ei ddosbarth i ddarllen yn gywir. Gofalai yn fanwl am yr atalnodau, y pwyslais, y synwyr, a.y. Nid oedd dim yn ei ofidio yn fwy na chlywed y Beibl yn cael ei ddarllen yn wallus o ran geiriad, yn ddibris o ran yr atalnodau, ac yn ddifater o ran ysbryd yr Ysgrythyrau Sanctaidd.
Trwy ei fywiogrwydd, ei ffraethineb, yn nghyd a'i ofyniadau bachog, byddai yn cadw i fyny ddyddordeb yn ei ddosbarth bob amser. Y mae ei goffadwriaeth yn anwyl gan y rhai fu yn ddysgyblion yn ei ddosbarth. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn fel un a gymerai ran gyhoeddus yn y cyfarfod gweddi a'r seiat. Yr wyf yn cofio am dano fel un o golofnau y cyfarfod gweddio bump ar hugain o flynyddoedd yn ôl. Byddai yn ofalus i ddethol emynau profiadol ac erfyniadol; darllenai hwy yn ddeallus ac yn yr ysbryd. Llawer gwaith y gwelsom ef wedi cael ei lwyr orchfygu gan ei deimladau wrth erfyn am drugaredd yn haeddiant Iesu Grist. Parhaodd hyd y diwedd yn weddiwr cyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddi, fel y gwelwn yn ôl a ganlyn o lythyr y diacon T. D. Roberts, Randolph: " Yr oedd o werth mawr yn y cyfarfod gweddio. Yr oedd yn weddiwr cryno a gafaelgar, ac yn gadael argraff ei fod yn siarad â Duw wrth weddio. Teimlwn mai colled fawr i eglwys yw colli gweddiwr gafaelgar. Ofnwn fod pob bwlch a wneir yn yr eglwys yn cael ei wneyd i fyny yn well na'r bwlch hwn."
Anaml iawn y byddai heb brofiad i'w ddweyd yn y seiat. Yr oedd felly flynyddoedd yn ôl. Dywed Daniel Williams ei fod yn cofio iddo ddyweyd ei brofiad yn hynod o effeithiol un tro. Soniai fod ambell un yn cael gwir argyhoeddiad heb gymaint o ofn ac o ddychryn ag un arall. "Trugaredd fawr," meddai, "ydyw i bechadur gael ei ddwyn at Grist heb gael ei gadw yn hir o dan Sinai."
Rhoddai le mawr i'r Beibl yn ei feddwl ei hun ac yn ei deulu. Ac nid oedd dim yn cael lle ac amser y weddi deuluaidd. Yr oedd Iesu Grist i gael cymaint o le yn ei dy ef a neb. Dywedai wrth y teulu, "Pe buasai i ryw berson ddyfod i'r tŷ, buasem yn rhoddi y gwaith o'r neilldu i siarad ag ef; a phaham na ddylem gymeryd amser i siarad ag Iesu Grist?" "Take time to be holy."
Ar ddydd priodas un o'r plant daeth at y bwrdd oedd yn llawn o roddion hardd a drudfawr a chododd y Beibl a roddai iddi gan ei roddi ar y cwbl, a dywedai, "Cofiwch roddi y lle uchaf o bob peth i'r Beibl yn eich tŷ byth." I un oedd yn rhoddi lle mor fawr i'r Beibl, ac yn talu y fath barch i Iesu Grist yn ei fywyd personol ac yn ei deulu, pa ryfedd ei fod wedi cael marw mor ogoneddus?
Cafodd ffarwelio a'i anwyl deulu, mewn gobaith a sicrwydd ei fod yn myned at Iesu Grist, a bod marw yn elw iddo. Collodd y teulu hoff briod serchog, a thad tyner a gofalus, ond y mae ei gyngorion tadol a'i fywyd Cristionogol yn aros yn eu dylanwadau dyrchafol yn etifeddiaeth anmhrisiadwy iddynt.
Tachwedd 30ain, ymgasglodd tyrfa fawr o'i gyfeillion i dalu eu parch iddo, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. R. Daniel, R. H. Evans, D. R. Jones a Griffith Griffiths. " Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau."
ROBERT T. ROBERTS.