MISS. CATHERINE WILLIAMS. ST. LUKE HOSPITAL, NEW YORK.
Ionawr 7fed, 1894, yn St. Luke Hospital, dinas New York, yn 34 mlwydd oed, Miss Catherine Williams, merch Ellis ac Ann Williams, Penybont, Groeslon, Arfon.Daeth hi a'i chwaer drosodd i America mis Medi diweddaf, gyda gobeithion dysglaer o'i blaen, ond torodd angen ei holl obeithion yn chwilfriw. Dysgwyliai gael mwynhau cymdeithas ei chwaer, Mrs. W. J. Davies. West Pawlet, a chael byw am flynyddoedd yn agos i'w gilydd. Aeth i lawr i New York gyda'r bwriad i aros yno am amser i wasanaethu, ond y diwrnod yr oedd i fvned i'w lle bu gorfod iddi fyned i'r ysbyty uchod. Cafodd bob caredigrwydd a gofal. Ei hafiechyd ydoedd math o cancer yn yr ystumog. Rhaid ei bod wedi dyoddef llawer yn ôl tystioliaeth y meddygon.
Hebryngwyd ei gweddillion marwol i West Pawlet, Vermont, lle y cymerodd yr angladd le ar y 10fed.
Gadawodd ddwy chwaer yma i alaru ar ei hol, sef Mrs. W. J. Davies a Mrs. Jones; hefyd dau frawd, sef Richard E. Williams, Butte City, Montana, a John Williams, Beudy Isaf. Llandwrog, Arfon.
Yn ôl tystiolaeth y rhai oedd gyda hi yn ei mynydau olaf, credwn y cafodd fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas M. Owen ac Edward Roberts yn wir effeithiol. Ymddirieded y teulu galarus yn yr Arglwydd, gan gredu ei fod yn gwneyd pob peth yn y modd goreu, er nas gallwn ni ar hyn o bryd weled hyny.