MRS. ELIZABETH WILLIAMS. DODGEVILLE, WISCONSIN.
Mebefin 7fed, 1894, Mrs. Elizabeth Williams, gwraig Mr David Williams, Dodgeville, Wisconsin.Ganwyd hi Mai 7fed, yn mhlwvf Pencroeslon, Llanddeiniolen, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Priododd David Williams, Hydref 1848. Ymfudodd i America yn 1851, a bu byw am rai misoedd yn agos i Waukesha. Symudodd i Dodgeville Mehefin 1852, ac ymunodd a'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig oddeutu 40 mlynedd yn ôl, a bu yn aelod ffyddlon o'r cyfryw eglwys hyd angeu.
Gadawodd chwech o blant a phriod i alaru eu colled.
Claddwyd hi yn mynwent Dodgeville y dydd Sadwrn canlynol, pryd y gweinyddwyd gan Mr. Dryer, Dr. Cefni Parry a'r ysgrifenydd.
Nawdd Duw fyddo ar ei phriod a'i phlant, yw ein gwir ddymuniad.
SEM PHILLIPS.