MRS. ELIZABETH WILLIAMS. CAMBRIA, WISCONSIN.
Medi 28ain, 1894, yn Cambria, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Williams, gweddw y diweddar J. LI. Williams, M. D., o anhwyldeb poenus yn y gwddf a'r cylla, yn 61 mlwydd oed.Merch ydoedd i Robert a Mary Evans. Daethant i'r wlad hon o Tanycastell. Dolwyddelen. Gogledd Cymru, a gwnaethant ymsefydlu yn Welsh Prairie, yn ymyl Cambria. Yr oedd Elizabeth yn un o wyth o blant, ond yn awr nid oes ond tri yn fyw, sef David R. Evans ac Evan R. Evans. diacon gyda y T. C. yn Racine: hefyd Mrs. John Ap Jones o'r lle hwn.
Gwnaeth ein chwaer ymadawedig briodi gyda Dr. Williams yn 1855, a bu fyw yn Cambria hyd ddydd ei marwolaeth. Mae ganddi dri o blant i alaru ar ôl un o'r mamau mwyaf rhinweddol, gofalus a chall yn y wlad, sef Dr. W. E. Williams, Mrs. John Richards, Mankato. Minnesota, a Mrs. H F. Schemmel o'r lle hwn.
Yr oedd Mrs. Williams yn aelod hardd gyda y T. C., ac yn feddianol ar lawer o ragoriaethau. Yr oedd yn wraig rinweddol a doeth, a gellir dweyd am dani fel am Dorcas ei bod "yn llawn o weithredoedd da, ac elusenau y rhaf a wnaethai hi."
Fe deimlir colled a galar mawr ar ei hol gan fyd ac eglwys. Dyoddefodd ei chystudd mewn ymostyngiad tawel i ewyllys Duw: a bu farw yn ddiofn a hyderus, gan bwyso yn hollol ar aberth y groes.
Dangoswyd ar ddydd ei chladdedigaeth ei bod yn sefyll yn uchel yn syniad y bobl. Daeth torf fawr yn nghyd ar fyr rybudd. Gweinyddwyd gan y Parchn. G. Griffiths, R M. Williams, E. Morgan a'r ysgrifenydd.
Bydded i Dduw gysuro a bendithio ei pherthynasau galarus a pharchus.
R. H. EVANS.