MRS. ELLEN WILLIAMS. GRANVILLE, NEW YORK.

Mai 3ydd, 1894, yn Granville, New York, Ellen, priod Robert D. Williams, yn ei 40 flwyddyn o'i hoedran.

Merch ydoedd i John E. Hughes a Mary ei briod, Fair Haven, Vermont. Ganwyd hi yn Llidiart-y-gwenyn, ger Bethesda, Arfon.

Bu farw ei mam pan ydoedd hi ond naw mlwydd oed; yn mhen ysbaid priododd y tad yr ail waith gyda Jane Williams, merch Hugh Williams y crydd, Llanrug, Arfon, ac yn 1889 ymfudodd y teulu i America, gan ymsefydlu yn Fair Haven. Awst 15fed, 1871.

Awst 12fed, 1871, daeth Ellen yn briod i Robert D. Williams, Farnamsville, ger Fair Haven. Yn Awst, 1886, symudodd y teulu i Granville, trwy fod Mr. Williams wedi derbyn y penodiad o oruchwyliwr i'r diweddar Hugh W. Hughes, Ysw., yn y Brownell Slate Quarries, a parhaodd i ddal y swydd bwysig o dan Wm. H. Hughes, Ysw., mab y diweddar Mr. Hughes, hyd o fewn ychydig gyda blwyddyn yn ôl, pryd yr ymadawodd â Mr. Hughes i wasanaethu Owens Brothers, i fod yn brif oruchwyliwr ar yr oll o'u chwarelau.

Ganwyd i'r teulu bump o blant, dau o'r rhai fuont feirw yn eu maboed, ac a gladdwyd yn Fair Haven. Mae tri eto yn aros - yr hynaf, sef Mary, yn briod gyda Robert O. Owen, y chwrareuwyr a'r cerddor tra adnabyddus ac enwog yn Granville; John yn llanc ieuanc, a Robbie yn 5 mlwydd oed, a adawwyd i ofal y tad trallodedig, ac i gydalaru am briod a mam dyner a gofalus.

Yr oedd Mrs. Williams yn lled wael er's blynydoedd, ond y flwyddyn ddiweddaf cystuddiwyd hi yn ddirfawr. Yr oedd yn pesychu yn ddrwg ar amserau, yr hyn achosid gan afiechyd yr ysgyfaint a'r ystumog; ond y gelyn penaf ydoedd afiechyd y galon, a dyma a roddodd derfyn ar ei bywyd.

Magwyd Mrs, Williams yn grefyddol o'i mebyd, a pharhaodd yn aelod o'r eglwys À., hyd ei bedd. Pan yr oedd ei hiechyd yn caniatau yr oedd yn hynod o ymdrechgar a diflino yn harddu lle a phreswylfeydd y Goruchaf yn ei Seion. Yr oedd graddau mor helaeth o wyleidd-dra a thynerwch yn perthyn i'w natur, fel mai ychydig o weithiau y clywsom hi yn ceisio dweyd dim yn gyhoeddus yn yr eglwys. Lluddiwyd hi er's amser maith i fod yn bresenol yn y moddion cyhoeddus, ond yr oedd ei chalon gyda phobl Dduw.

Dyoddefodd ei chystudd yn hynod dawel a dirwgnach. Gellir dweyd yn ddibetrus iddi gael pob peth allai braich o gnawd estyn iddi; ond methodd aur ac arian a medrusrwydd meddygol gadw angau draw. Ffarweliodd Mrs. Williams a'i chartref clyd a chysurus, gyda'i dodrefn drudfawr, am gartref a thy nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd, lle na ddywed yr un o'i breswylwyr claf ydwyf. Na wylwch, ynte, briod a phlant anwyl, ond mynwch adnabod y gŵr a garodd eich priod a'ch mam dyner.

Dydd Sadwrn y 5ed ymgasglodd tyrfa fawr i hebrwng yr hyn oedd farwol o'n hanwyl chwaer i dŷ ei hir gartref. Cymerwyd y corff i'r capel (Jerusalem) yr hwn oedd wedi ei wisgo â brethyn du hardd, gydag ysnodenau o ruban gwyn wedi eu dodi mewn modd tlws a destlus iawn yn gymblethedig a'r du; ac oddeutu y pwlpud yr oedd blodau amryliw heb rif bron.

Gweinyddiwyd gan y Parchn. J. Milton Thomas, diweddar o goleg Oberlin, John Williams (M. C.) a John W. Williams, Fair Haven, Vermont; yna aed yn orymdaith i gladdfa newydd Granville - canoedd o ddynion wedi eu trefnu yn dri, ochr yn ochr, yn cerdded o flaen y cerbydau. Yr oedd arwyddion ar lan y bedd fod un anwyl a hoff gan y bobl yn disgyn i'r gweryd oer; ond ni gredwn os cafwyd colled anadferadwy yn y teulu, yr eglwys a'r gymydogaeth, fod Mrs. Williams ar ei thragywyddol enill.

"Wrth gloi a dadgloi'r glyn
Gwel Duw ei flodeuyn."

Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parch. John W. Williams, Fair Haven, a rhoddir yn y dyfodol agos bregeth angladdol i'r chwaer ymadawedig gan yr un gŵr parchedig.

Mae Mr. Williams a'r teulu yn dymuno talu eu diolehgarwch gwresocaf i bawb a fuont yn garedig iddynt yn eu profedigaeth chwerw.

Y Drych ~ Mai 17eg 1894.