MRS. ELLEN WILLIAM. NEW YORK.

Gorphenaf 12fed, 1894, yn ninas New York, Mrs. Ellen Williams, mewn canlyniad i ergyd o'r parlys, yn 63 mlwydd oed.

Genedigol oedd o Llanberis, Sir Gaernarfon, ac yn ferch i Owen ac Ellin Rowlands.

Daeth i'r wlad hon yn 1851, ac yn lled fuan ar ôl glanio ymbriododd â John J. Williams gan ymsefvdlu yn Danielsville, Pennsylvania, lle y buont byw am flynyddoedd lawer, hyd nes y symudasant i ddinas New York tua saith mlynedd yn ôl.

Ganwyd iddynt naw o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw, sef un mab a phump o ferchaid.

Bu farw John J. Williams tua thair blynedd yn ôl.

Yr oedd ein chwaer yn grefyddol o'i mebyd; a bu hi a'i phriod, John Williams, yr hwn a fu yn gwasanaethu yn y swydd ddiaconaidd am lawer o flynyddoedd, yn ffyddlawn iawn gydag achos crefydd cyn ac wedi dyfod i New York. Yr oedd yn aelod parchus o eglwys 13th Street, a gwnaed sylwadau parchus a theimladwy iawn ar ei hol gan y diaconiaid. Yr oedd yn amlwg i'r ysgrifenydd, er ei fod yn ddyeithr i hanes ei bywyd, ei bod yn meddu lle cynes iawn yn mynwes y frawdoliaeth.

Ymgasglodd tyrfa fawr i'w hangladd, pan y gweinyddwyd gan Dr. Buchanan (Pres.) a'r ysgrifenydd. Bore dranoeth dygwyd ei gweddillion i Slatington, Pennsylvania.
JOSEPH ROBERTS.

Y Drych ~ Gorphenaf 26ain 1894.