MRS. JANE WILLIAMS. GRANVILLE, NEW YORK.

Tachwedd 14eg, yn ei chartref yn Granville, New York, Mrs. Jane Williams, priod David W. Williams, yn 60 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o Penygroes, Tregarth, Sir Gaernarfon, ond yn Bethesda yr oedd yn cartrefu gyda'i theulu am bymtheg mlynedd cyn y ymfudo o honynt i'r lle hwn wyth mlynedd yn ôl.

Cysegredd Mrs. Williams ei hun i wasanaeth lesu Grist yn mlodau ei hoes. Gwerthfawrogodd y gwasanaeth hwnw fel braint benaf ei bywyd, a bu yn ddiwyd a ffyddlon ynddi hyd derfyn y daith. Yr oedd yn wraig hawddgar, yn fam dyner a gofalus, a diau y bydd y "broffwydoliaeth a ddysgodd eu mam iddynt" yn drysor amhrisiadwy i'r rhai a adawodd i wylo ar ei hol. Yn ei chysylltiad a'r eglwys Annibynol yn y lle hwn, yr oedd yn garedig ac anhymongar, ac yn un o "heddychol ffyddloniaid Israel." parod bob amser i wneyd a allai o blaid dygiad yn mlaen lwyddiant achos ei Gwaredwr, dan achles yr hwn y cafodd feddiant ar iachawdwriaeth i'w henaid ei hun.

Bu am amser maith yn nychu, ond dyoddefodd y cyfan yn hollol dawel a dirwgnach. Bu lawer noson o herwydd ei hanhwyldeb yn analluog i roddi hun i'w llygaid, er hyny ni chwynai, eithr dangosai yr ymostyngiad a'r tawelwch a brofai fod ei deall a'i theimlad dan lywodraeth crefydd yr Hwn a ddywedodd, "A dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon."

Sabboth ar ôl ei hymddatodiad ymgynullodd torf barchus yn nghyd er talu iddi y gymwynas olaf. Ar ôl gwasanaethu yn y tŷ yn y drefn arferol, hebryngwyd y corff i gapel Jerusalem (A.), pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Thos. M. Owens, West Pawlet, yn deimladwy iawn, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. M. Thomas.

Yn ystod ei hafiechyd yr oedd wedi dewis ei harchgludwyr, ac yr oedd yr oll yn bresenol oddigerth un, sef Solomon Roberts, yr hwn yn ystod yr amser oedd ar ymweliad a Chymru. Dewisodd hefyd emynau i'w canu yn ei hangladd.

Heblaw ei phriod, y mae tri o blant wedi eu gadael i alaru ar ei hol, dau fab - William a David, a merch, Mrs. Ellis Morris.

Boed nawdd y nef ar y teulu trallodedig.
OWEN THOMAS.

Y Drych ~ Tachwedd 29ain 1894.