MRS. MARY WILLIAMS, RANDOLPH, WISCONSIN.

Medi 19eg, 1894, yn Randolph, Wisconsin, bu farw Mrs. Mary Williams, yn 77 mlwydd a deng mis oed. Merch oedd i Richard a Mary T. Abraham, arferai fod yn un o weithwyr chwarel Caebraichcafn, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru. Ganed ein gwrthddrych. Tachwedd. 16eg, 1816, yn Penarbronydd. Priododd â Richard Williams, Chwefror 21ain, 1840.

Ymfudasant i'r wlad hon yn 1848, gan sefydlu yn Lake Emily, Wisconsin. Bu iddynt ddeg o blant, o ba rai y mae chwech yn fyw: W. R Williams. Omaha, Nebraska; Richard Williams, Lake Emily; John P. Williams, meddyg yn Dodgeville, Wisconsin; Elias Ẃilliams ar yr hen gartref; Mrs. Pboebe Rowlands, Nebraska, a Mrs. Hannah Lloyd, Randolph. Bu Charlote farw yn ferch ieuanc yn 1883, a Rowland Williams, priod Mrs. Williams, yn 1885.

Yr oedd y teulu hwn - fel yr adnabyddid, teulu Rowland Williams, Lake Emily - yn mhlith sefydlwyr cyntaf yr ardal, ac yn aelodau ffyddlon a thangnefeddus o'r eglwys: hen gymeriadau didwyll a gonest, wedi magu tyaid o blant sydd yn anrhydedd i'w rhieni. Nodweddid Mrs. Williams fel gwraig hynod garedig, ddoeth a chrefyddol yn ei dydd. Pan fyddai neb yn glaf, neu mewn angen cymorth yn yr ardal, byddai hi yno yn gweini y gyntaf o bawb; cymerai boen i weini ar y teulu trallodedig. Y mae y cyfryw rai yn esiamplau i'w dilyn. Meddai Paul, "Anerchwch yr anwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd." Gallwn ninau fel teulu ddyweyd yr un peth am Mrs. Williams: Yr ydym dan rwymau iddi am ei charedigrwydd mewn bylchau cyfyng, a hyderwn ei bod hithau erbyn hyn allan o gyraedd gofidiau y llawr.

Yr oedd yn haelionus at achos y Gwaredwr, os gwelai fod achos yn galw, megys Cenadaeth. Dangosai y carai y Gwaredwr mewn gweithred a gwirionedd. Gwelais ddau adfywiad crefyddol yn yr ardal, a chofiwyf yn dda fel y mwynhai yr adfywiadau; fel y ddaear dan wlawogydd tyner y gwanwyn, ceir deall yn union yn lle mae bywyd wedi dal y gauaf caled. "Adfywiant fel yd, blodeuant fel y winwydden, bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus.

"Yn nhy Mrs. Hannah Lloyd, yn Randolph, y bu farw, gyda'r hon y bu yn aros am dymor olaf ei bywyd; ac y mae hithau, y ferch, wedi dianc ar ôl ei mam. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus.

Gweinyddwvd gan y Parchn. D. R. Jones, D. R. Williams, a'r ysgrifenydd. J. R. Daniel.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1896.


MRS. MARY WILLIAMS, RANDOLPH, WISCONSIN.

Medi 19eg, 1894, yn Randolph, Wisconsin, Mrs. Mary Williams, yn 77 mlwydd a 10 mis oed.

Ei rhieni oedd Richard a Mary T. Abraham. Ganwyd Mrs. Williams yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1816.

Priododd â Rowland Williams, Chwefror 21ain, 1840, ac ymfudasant i'r wlad hon yn 1848, gan ymsefydlu yn Lake Emily, Wisconsin.

Ganwyd iddynt ddeg o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw.

Cafodd y fraint o ddwyn yr iau yn ei hieuenctid, a pharhaodd i'w dwyn hyd ei bedd.

Y Drych ~ Tachwedd 29ain 1894.


MRS. MARY WILLIAMS, RANDOLPH, WISCONSIN.

Medi 19eg, 1894, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Owen W. Lloyd, Randolph, Wisconsin, Mrs Mary Williams, yn 78 mlwydd a 10 mis oed.

Merch ydoedd i Richard a Mary T. Abraham, Penarbronydd, Llandegai, lle ganwyd hi Tachwedd 16eg, 1816. Priododd Rowland Williams Chwefror 21ain, 1840, a ganwyd iddynt bedwar o blant.

Yn 1846 daeth ei mam, Mary T. Pritchard, i'r wlad hon, felly yr oedd tynfa fawr iddynt hwythau ddod drosodd, a chymerodd hyny le yn 18S8. Ymsefydlasant yn Lake Emily, Wisconsin.

Ganwyd iddynt ddeg o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw. Bu farw ei phriod Mehefin 20fed, 1885, gan ei gadael i alaru ar ei ôl. Oherwydd gwaeledd iechyd symudodd i Randolph yn 1887, i gartrefu at ei merch, lle treuliodd weddill ei hoes o dan law a thynerwch y teulu.

Cymerwyd hi yn glaf yn Awst, a bu ar ei gwely cystudd am bedair wythnos, ond yr oedd hi yn gallu dyoddef yn dawel, gan ddywedyd "Ni frysia yr hwn a gredo." Er nad oedd yr ymadawedig yn fawr ei swn, yr oedd ganddi nodweddion a hoffid gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn wraig a gair da iddi gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Nid oedd pen draw ar ei charedigrwydd, yn enwedig i'r tlawd.

Cafodd angladd parchus ddydd Gwener, Medi 11eg, 1894. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. Edward Morgan (A.), yna aed a'r gweddillion i gapel Lake Emily, lle y gweinyddwyd gan y Parchn. Dafydd Williams gynt o Columbus, D R. Jones a John R. Daniel. Canwyd darnau priodol ar yr amgylchiad gan gor Randolph dan arweiniad William E. Owen, yn effeithiol iawn.

Y Drych ~ Ionawr 17eg 1895.