MRS. MARY WHELDON WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Hydref 28ain, 1894, yn ei chartra' yn Bangor, Pa., Mary Wheldon Williams, anwyl briod John Wheldon Williams, o'r darfodedigaeth. Bu yn nychu am amser maith; ond dyoddefodd ei chystudd yn dawel, gan lwyr foddloni i'w chyflwr er mor boenus ydoedd. Yr oedd yn ei phwyll hyd y diwedd, ac yn gallu trefnu ei thy gan gadarnhau y rhan hono o'r ysgrythyr. "Ni frysia yr hwn a gredo."

Yr oedd yn aelod ffyddlon iawn gyda'r Annibynwyr, bob amser yn barod i ymgymeryd ag unrhyw orchwyl er hyrwyddo llwyddiant yr achos mawr, yr hwn oedd yn cael lle amlwg yn ei holl weithrediadau.

Hefvd, yr oedd yn aelod pwysig o'r "Ladies Aid Society," a thrwy gyfrwng y gymdeithas ddaionus yma enillodd iddi ei hun gylch eang o gyfeillion a chyfeillesau yn mhlith yr Americaniaid, y rhai a ddangosasant y parch puraf i'w gweddillion a'i choffadwriaeth. Yr oedd yn hynaws a charedig, ac yn nodedig o letygar, yn ddwfn yn serchiadau ei chydgenedl, yn holl gylch ei hadnabyddiaeth.

Ganwyd Mrs. Williams yn Bethesda. Arfon. Gogledd Cymru, Mawrth 2ail, 1848, felly yr oedd yn 46 mlwydd a 7 mis oed.

Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1856 gan ymsefydlu yn ardaloedd chwarelyddol Slatington. Merch ydoedd i'r diweddar Thomas T. Jones (Twmtwm).

Priododd 26 mlynedd yn ôl. Ganwyd iddynt ddeg o blant, o'r rhai y mae yn fyw dri o feibion a thair o ferched - yr ieuengaf yn 14 mlwydd oed.

Daeth tyrfa luosog o'i chymydogionu a chyfeillion o'r cymydogaethau cylchynol i dalu y deyrnged o barch i'w gweddillion. Gweinyddwvyd gan y Parchn. R. Lloyd Roberts (A.), Bangor, Mr Apple (Luth ), Thomas Roberts (M. E ), a W. T. Williams (A.) Slatington.

Yr oedd yn un o'r angladdau mwyaf lluosog a pharchus a welwyd yn Bangor. Yr oedd tua 12 o wreaths wedi eu hanfon i'w dodi ar ei harch. Y Sabboth canlynol cynaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol a phregeth angladdol yn nghapel yr A. gan y gweinidog oddiar y geiriau: "Ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam." Cafwyd datganiad rhagorol o'r dernyn swynol, "Yn y glyn wele oleu." o dan arweiniad Jeremiah Wynne. Yr oedd yr oll o'r gwasanaeth o dan arddeliad neillduol. Rhoddodd yr eglwys arwydd trwy godi ar eu traed o'i chydymdeimlad a'r teulu galarus yu eu trallod.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed 1894.