MR. RICHARD R. WILLIAMS. ROME, NEW YORK.

Yn Rome, New York, Rhagfyr 23, 1894, yn 70 mlwydd oed, bu farw Richard R. Williams, o afiechyd diabetes.

Brodor ydoedd o Ty'nrhos, Bryncroes, yn agos i Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad yma pan oedd yn 24 mlwydd oed cartrefodd gyntaf am rai blynyddau yn Remsen; ac aeth oddiyno i Rome. Tra yno, ymbriododd â Miss Margaret Jones, yn 1854, o Lanfair Neubwll, Sir Fôn. Wedi hyny aeth i Floyd am tua deng mlynedd; yna i Quaker Hill am tua 23 mlynedd; yna yn ôl i Rome, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol.

Nodweddion mwyaf amlwg ei gymeriad oeddynt, diwydrwydd, cynildeb, a gonestrwydd. Dygodd y rhinweddau hyn eu ffrwyth naturiol iddo mewn llawnder a digonolrwydd. "Llaw y diwyd a gyfoethoga." Nid gyda phethau y bywyd yma yn unig y deuai y rhinweddau hyn i'r golwg, ond hefyd yn nglyn â phethau teyrnas nefoedd. "Llafuriwn nid am y bwyd a dderfydd, ond am y bara a bery i fywyd tragywyddol."

Yr oedd ffrwyth y llafur yma eto i'w weled yn ei rodiad dichlynaidd, ei brofiad melus, ei weddiau gafaelgar, a'i syniadau clir yn mhethau teyrnas nefoedd. Dewiswyd ef yn flaenor er's blynyddau lawer yn eglwys y T. C. yn Mullin Hill.

Gadawodd ar ei ôl weddw a phedwar o blant, Mrs. David Griffîths. William L. a Robert H., o Rome, a Charles M. Williams, o Remsen, y rhai y mae eu hymarweddiad yn addurn i'w proffes.

Claddwyd ef yn mynwent Wrights Settlement, a gweinyddwyd gan y gweinidogion cartrefol - Robert Williams, yn Gymraeg, a J. H. Jones yn Saesoneg.
J. H. JONES.

Y Cyfaill Americanaidd ~ Mawrth 1895.


MR. RICHARD R. WILLIAMS. ROME, NEW YORK.

In the name of God, Amen.

I Richard R. Williams of the town of Lee, County of Oneida and State of New York, being pf sound disposing mind and memory, but mindful of the uncertainty of this mortal life do therefore make and publish this my last Will and Testament.

After my funeral expenses are paid and all my legal debts are satisfied I give and bequeath the residue of my property of every nature personal or real in manner followig to wit.

First : To my beloved wife Margaret the use of all my property during her natural life and I also give her an unlimited privilege to use any portion of the principal as she may need for her support only.

Second : To my children Elizabeth, Ann, William L., Charles W. and Robert R. all that will be left at the decease of my wife to be divided equally among them share and share alike.

Third : I appoint and constitute my aforesaid wife Margaret sole Executrix of this my last Will and Testament.

In witness whereof I herety affix my seal and subscribe my name this fourth day of January in the year of our Lord one thousand eight hundred and eighty one. Signed Richard R. Williams.

Richard R. Williams the testator declared to each of us the abovew instrument to be his last Will and Testament and signed the samr in our presence, and at his request and in his presence and in the presence of each other we subscribe our names at the date thereof as attesting witnesses.
John H. Jones Elm Street Rome.
David Evans George Street Rome.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.