MR. ROBERT WILLIAMS. PONKAPOG, BOSTON, MASSACHUSETSS.

Tachwedd 28ain, 1894, yn 60 mlwydd a 7 mis oed, Robert Williams, Ponkapog, ger Boston, Massachusetts.

Naw wythnos yn flaenorol yr oedd yr ymadawedig wedi prynu y helaeth a chysurus, ac wedi ail briodi ynddo, a diameu ei fod yn meddwl cael cartref cysurus yn ei le newydd i ddiweddu ei oes; ond ni bu ei dymor ond byr iawn a llawn o helbul yn y cartref newydd.

Ei afiechyd oedd consumption of the bowels. Cafodd gystudd trwm iawn, er nad oedd ond byr. Brodor oedd o Bethesda, Arfon - mab John a Jane Williams, ac yr oedd yn frawd i fy niweddar briod, ac yn rhwymau y berthynas aethym i'w angladd.

Dodwyd ef i orwedd wrth ochr ei wraig gyntaf (Margaret).
W. M. OWEN, FAIRHAVEN.

Y Drych ~ Rhagfyr 13eg 1894.