MR. THOMAS C. WILLIAMS. UNION GROVE, RACINE, WISCONSIN.

Tachwedd 20, 1894, yn Union Grove, Sir Racine, Wisconsin, Thomas C. Williams, yn 74 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o blwyf Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfududd i'r wlad hon yn 1844, gan ymsefydlu ar y cyntaf yn Swydd Oneida, New York, lle yr oedd perthynasau iddo. Yn 1847 symudodd i Darien, Walworth County, Wisconsin, lle y bu yn dylyn ei alwedigaeth fel dilledydd am amser. Yn 1850 priododd gyda merch ieuanc genedigol o'r wlad o'r enw Miss Soper, ac yna ymgymerodd â ffarmio, a bu yn hynod lwyddianus.

Yn 1862 prynodd ffarm ger Union Grove, lle y bu yn ddiwyd a llwyddianus hyd 1889, pan y symudodd i'r pentref i fyw.

Gadawodd ar ei ôl weddw a phump o blant ac amryw wyrion. Mab iddo ef ydyw William C. Williams, cyn-gyfreithiwr dinasol Milwaukee, ac un o'r dadleuwyr mwyaf galluog yn y Dalaeth.

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn a neillduolion yn perthyn iddo. Yr oedd yn wleidyddwr selog dros ben, a'i ymlyniad yn gryf wrth y blaid Werinol, a bu yn dal amryw swyddau lleol. Bu hefyd yn grefyddwr aiddgar a gweithgar dros ei holl fywyd. Nid oedd arno ofn amlygu ei egwyddorion gwladol na chrefyddol, yn mhob man ac ar bob amgylchiad.

Yr oedd yn neillduol o garedig fel priod, tad, cyfaill a chymydog.

Dydd ei angladd, y 23ain, aed a'i weddillion i addoldy y Cynulleidfaolwyr Saesneg, lle yr oedd yn aelod gwerthfawr, a siaradodd ei weinidog, ac eiddo yr M. E., yn deimladol. Datganodd Miss Mollie Evans, Milwaukee, ddau unawd yn y modd mwyaf dwys a phriodol iawn i'r amgylchiad.

Heblaw nifer fawr o gymydogion, yr oedd amryw gyfeillion o Racine a Milwaukee yn yr angladd.
T. LL. W.

Y Drych ~ Rhagfyr 6ed 1894.