MR. WILLIAM F. WILLIAMS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 3ydd, 1894, yn Slatington Pennsylvania, y cyfaill ieuanc William F. Williams.

Daeth i'r wlad hon oddeutu saith mlynedd yn ôl o Gwersyllt Gwyn, Caerllwyngrudd Bethesda Arfon, ac yn Slatington y treuliodd bron ei holl amser ar ôl iddo lanio yn America.

Gadawodd dad a mam a brawd a chwiorydd yn Nghymru yn nghyd a brawd a chwaer yn y wlad hon, i alaru ar ôl un anwyl gymerwyd ymaith yn 26 mlwydd oed.

Ni fu ein cyfaill ieuanc ond ychydig ddyddiau yn sal, a phan daenwyd y newydd am ei farwolaeth sydyn, fe darawyd pawb â syndod a phruddder yn ein hardal, oblegid ei fod yn ddyn ieuanc hoffus gan bawb a'i hadwaenai, a gwnaeth iddo ei hunan luaws mawr o gyfeillion mynesol yn ein mysg fel dosbarth ieuanc.

Gorphenaf 5ed, hebryngwyd ei weddillion i Fairview Cemetery, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. John W. Morris (ei weinidog), William T. Williams (A.), Henry Evans (B.), yn nghyd a'r Knights of Pythias. Hefyd trodd y C. F. S. allan y diwrnod hwnw i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd yn aelod, a chyflwynasant wreath ardderchog i'w gosod ar ei arch. Cafodd gladdedigaeth barchus.

Dangoswyd pob gofal a thynerwch a'r caredigrwydd mwyaf tuag ato yn ystod ei gystudd byr gan bobl hynaws a siriol y lletyai gyda hwynt, sef Mr. a Mrs. Michael Roberts, Williamstown.

Amddiffyn Duw fyddo dros y teulu a'r perthynasau yn y wlad hon, yn ogystal ag yn Nghymru.
'RHEN DOM.

Y Drych ~ Awst 30ain 1894.