MR. WILLIAM M. WILLIAMS. SOUTH DELTA, MARYLAND.
Ionawr 17eg, 1894, yn South Delta, Maryland, y brawd William M. Williams, yn 64 mlwydd oed.Brodor ydoedd o Tanymaes, Bethesda, Arfon, ond yr oedd wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn yr ardal hon, ac yn adnabyddus yma fel dyn tawel a chyfeillgar, priod gofalus, tad tyner a charedig, a Christion amlwg, yn neillduol yn ei ddyddiau diweddaf. Ni welais neb erioed yn fwy hyderus ar ei wely angeu. Braint oedd cael sefyll wrth ochr ei wely, yr hyn gafodd degau yn ystod y pythefnos olaf y bu fyw, ac yr ydym yn gobeithio y bydd ei gyngorion difrifol yn profi yn fendith i lawer o'r cymydogion.
Troai rhai dynion celyd o'i ystafell yn foddfa o ddagrau; a'u tystiolaeth ydoedd fod crefydd mewn gwirionedd yn rhywbeth sylweddol, ac yn talu y can cymaint yn y byd hwn.
Diameu iddo ddyodef llawer o boenau corfforol yn ei waeledd, ond yr oedd ei wedd mor siriol ac yn ymddangos mor hamddenol nes ein hargyhoeddi nad oedd yn eu cyfrif ond "byr ysgafn gystudd" yn y rhagolwg ar y "tragwyddol bwys gogoniant" oedd yn ei ymyl. Dywedai yn hollol hyderus "Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Dywedai y Sabboth diweddaf y bu fyw, fod hwnw yr ail Sabboth iddo fethu myned i foddion gras, a chyngorai bawb allai fyned y Sabboth hwnw, ond ei fod ef yn ymyl cael myned i dreulio Sabboth tragwyddol yn y nefoedd.
Bu yn ffyddlon iawn i ddylyn moddion gras hyd y gallodd, a chafodd fedi yn helaeth o ffrwyth ei lafur cyn gadael y ddaear. Nid oedd y brawd Williams yn hynod am ei ddoniau, ei alluoedd a'i wybodaeth, ond ei brif nodweddion oeddynt ffyddlondeb a chywirdeb. Ni fyddai byth yn siarad llawer, ond teimlem bob amser ei fod yn dweyd ei feddwl yn onest a diragrith, er nad mor hwylus a doniol a llawer. Ond "ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Chwith genym weled ei le yn wag yn y capel; teimlir hyny yn fwy yn y teulu yn ddiau: ond y mae wedi gadael y fath arogl peraidd a hyfryd ar ei ôl, fel nas gallwn lai na dweyd yn yr amgylchiad hwn, "Da ac uniawn yw yr Arglwydd."
Gadawodd briod a chwech o blant ac amryw wyrion mewn galar ar ei ôl. Cawsant oll y fraint o fod yn ei angladd, er fod dwy o'r merched yn byw yn Philadelphia ac un yn Granville, New York. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nghapel y T. C., lle yr oedd yn aelod.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. H. F. Williams. J. Cadwaladr, J. D. Smith, a Mr. Jones. Claddwyd ef yn mynwent Slateville.
W. C. R.