MARGARET WYNNE. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Wedi cystudd blin am yn agos i dair blynedd, bu farw Mrs. Margaret Wynne, Mouut Pleasant, ger Racine, Wisconsin, Medi y 13eg, o'r cancer, yn 68 mlwydd oed.Merch ydoedd hî i William a Margaret Jones, Plasyndre, Dyffryn Ardudwy, Meirionydd, Gogledd Cymru, ac y mae chwaer iddi yn byw yno yn yr hen gartref yn awr.
Dynes garedig ydoedd Mrs. Wynne, ac aelod er ys blynyddoedd yn eglwys Annibynol Pike Grove. A chyda y Methodistiaid Calfinaidd cyn hyny yn Racine, lle y derbyniwyd hi yn aeìod eglwysig yn fuan wedi dyfod drosodd i'r wlad hon yn 1858. Yr oedd wedi penderfynu ymofyn am aelodaeth yn eglwys Ddaw cyn gadael Cymru. Pan yn gwrando ar y gwr enwog hwnw Mr. Morgans, y Dyffryn, un tro yn pregethu y gwnaeth y penderfyniad hwnw; ac y mae yn hyfryd meddwl na ddarfu iddi ei anghofio wedi dyfod i'r America.
Gadawodd un ferch i alaru ar ei hol, sef Mrs. Joseph Davies, yr hon oedd yn byw gyda hi, a'r hon hefyd yn nghyd a'i theulu a fu yn gweini yn ffyddlon arni yn ystod eî holl gystudd poenus. Taled yr Arglwydd iddi hi a'í phriod, a'i phlant. Claddodd Mrs. Wynne ei phriod yn Ebrill 1873, a chladdwyd hithau dydd Sadwrn y 15fed o Fedi diweddaf, pryd y gwasanaethwyd yn ei hangladd gan y Parch. B. T. Boberts,, M. C, a'r ysgrifenydd.
THOMAS EVANS.