MR. ROBERT DAVIES. SUN PRAIRIE, WISCONSIN.

Mehefin 13eg, 1895, o ddiffyg treuliad y cylla, Robert Davies, Sun Prairie, Wisconsin, yn 79 mlwydd a 6 mis oed. Gadawodd ar ei ôl mewn sefyllfa gysurus wraig a chwech o blant, tri mab a thair merch.

Brodor ydoedd o ardal Bryncrug, Swydd Feirionydd.

Ymfudodd i America pan yn llanc ieuanc yn 1840. Arosodd am beth amser yn Steuben, New York, i ddysgu y gelfyddyd o ledrwr (tanner).

Yn 1844 symudodd i Racine, Wisconsin, lle y priododd Miss Ellinor Jones, merch hynaf Nathaniel Jones, gynt o Lanwrin, Swydd Drefaldwyn. Yn 1846 prynodd dyddyn yn terfynu ag eiddo ei dad-yn-nghyfraith yn Emmet, Swydd Dodge, Wisconsin, lle yr arosodd hyd 1864, pryd y symudodd i ardal Sun Prairie, ar dyddyn o dir yn cynwys yn awr 600 o erwau nad oes ei ragorach o bosibl yn Wisconsin. Yn nghylch ei yrfa grefyddol gellir nodi iddo pan yn Emmet ymuno dros amser byr a'r Annibynwyr; ond ar ôl symud i fysg y Saeson yn Sun Prairie, na welodd yn oreu ymuno ag un eglwys. Yr oedd ganddo feddwl parchus bob amser o grefydd, a phobpeth arall ag sydd yn tueddu at rinwedd a moesoldeb.

Ychydig ddyddiau cyn ei ymddatodiad, cefais beth ymddyddan ag ef yn nghylch y dyfodol tywyll, yn nghyd a'i deimlad wrth nesau tua'r glvn a'r afon ddu. Yr oedd chwant arnaf ddweyd rhywbeth wrtho er tawelu ei feddwl yn yr angeu. Beth oedd genyf gyda dim sicrwydd i'w ddywedyd wrtho? Nis gwyddwn. Ond dywedais mai ychydig iawn a wyddom yn nghylch y bywyd ar ôl hwn; mai daearol a phlentynaidd ar y goreu oedd ein syniadau am y dyfodol ysbrydoledig; pa gymdeithas mae yr ysbrydion yn gallu ei ddal a'u gilydd sydd hollol dywyll ac annirnadwy i ni; mai y peth goreu o dan amgylchiadau o'r fath, os oeddym wedi gwneyd ymgais at fyw bywyd gonest a rhinweddol, oedd ymdawelu wrth agosau i'r glyn tywyll, gan lithro yn esmwyth i freichiau awdwr ein bodoliaeth.

Gwelais fy mod wedi cyffwrdd ag un o danau tyneraf ei galon. Edrychodd arnaf gyda difrifoldeb a dywedodd - "Rwyf yn cydweld a chwi yn hollol yn hyn. Fel yr ydym wedi byw yr ydym i farw. Nid oes arnaf ofn marw, 'rwyf wedi treio gwneyd fy nyledswydd goreu gallaf yn fy mywyd." Do, yn ddiameu, fy hen gyfaill, hawdd iawn genyf gredu hyn; gwnaethost dy ddyledswydd hyd eithaf dy allu fel tad diwyd, gofalus a chariadlawn, fel dinesydd ffyddlon i dy wlad fabwysiedig, ac fel cymydog rhwydd-galon i gynorthwyo mewn eisiau y tlawd a'r anghenus. Ti a ymdrechaist ymdrech deg, ti a orphenaist dy yrfa. Gorphwys bellach.

Y Drych ~ Gorphenaf 4ydd 1895.