MRS. ELIZABETH DAVIES. BINGHAM CITY, UTAH.
Chwefror, 24ain, 1895, yn Bingbam City, Utah, Elizabeth, gwraig Owen L. Davies, wedi byr gystudd, yn 45 mlwydd oed. Rhoddwyd ei gweddillion i orwedd yn mynwent Ogden y Mawrth canlynol.Brodores o Fangor, Gogledd Cymru, ydoedd Mr. Davies, ac yn y wlad hon er's 22 o flynyddau. Treuliodd lawer o flynyddau yn Colorado, Silver Cliff, Pandora a Telluride.
Cyfrifid hi fel mam i fwnwyr Deheubarth Colorado, a bydd yn chwith gan lawer ddeall am ei hymadawiad.
Gadawodd fab a merch yn amddifad a gŵr yn dad galarus, sef O L. Davies, brawd Dr. Llewelyn P. Davies, Central City, Colorado.